Mwy yn ffafrio Cameron fel prif weinidog, medd arolwg

David Cameron
Image caption Roedd 34% o'r rai gafodd eu holi yn credu mai David Cameron fyddai'r Prif Weinidog gorau

Fe fyddai'n well gan fwy o bleidleiswyr Cymru weld David Cameron yn Stryd Downing nag Ed Miliband, yn ôl arolwg barn ar ran BBC Cymru.

Mae arolwg ICM yn dangos bod 34% yn teimlo taw'r Ceidwadwr fyddai'r Prif Weinidog gorau tra bod 23% o blaid Mr Miliband.

Dewisodd 8% arweinydd UKIP Nigel Farage a 5% y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg - er i 21% ddweud "dim un o'r pedwar".

Cafodd 1,000 o bobl eu holi gan ICM rhwng 19 a 26 Chwefror.

"Dyma bôl yng Nghymru, cadarnle Llafur, felly os na all Ed Miliband guro David Cameron fan hyn, mae'n annhebyg y gall e wneud hynny yng ngweddill Prydain," meddai'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ond rhybuddiodd nad oedd hi'n dilyn y byddai'r Ceidwadwyr yn ennill etholiad fis Mai.

"Enillodd Margaret Thatcher etholiad yn 1979, er mai'r duedd oedd y byddai James Callaghan yn ei churo o ran y polau piniwn," meddai.

Gan roi eich teyrngarwch plaid i un ochr, pa un o'r canlynol fyddai'r Prif Weinidog gorau i Brydain?
David Cameron 34%
Ed Miliband 23%
Nick Clegg 5%
Nigel Farage 8%
Dim ohonynt 21%
Ddim yn gwybod 10%

Roedd cwymp yn y nifer yn dymuno mwy o bwerau i'r Cynulliad - 40% wnaeth ddewis hwn fel eu hoff opsiwn tra oedd 49% yn datgan yr un farn ym mis Medi.

Dewisodd 6% annibyniaeth (3% yn uwch nag ym mis Medi). Dywedodd 33% fod digon o bwerau gan y Cynulliad (+ 6%), dywedodd 4% y dylai gael llai o bŵer (+ 2%), a 13% oedd am ei ddileu'n llwyr (+ 1%).

Dywedodd yr Athro Scully: "Mae'r pôl yma'n cyd-fynd â'r hyn rydym ni wedi ei weld dros y blynyddoedd diweddaraf ... mae 'na fwlch bellach rhwng y sawl sy'n weddol hapus â'r sefyllfa sydd ohoni, a'r grŵp ychydig yn fwy sy'n dymuno gweld pethau'n mynd ymhellach, er ddim mor bell ag annibyniaeth."

Pa osodiad sydd agosaf at adlewyrchu eich barn?
Dylai Cymru fod yn wlad annibynnol 6%
Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o bwerau 40%
Mae pwerau presennol y Cynulliad yn ddigonol 33%
Dylai'r Cynulliad gael llai o bwerau 4%
Dylid dileu y Cynulliad 13%
Image caption Roedd mwyafrif o blaid cynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad o 60 i 80

Dadansoddiad Tomos Livingstone, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Does dim os na fydd canfyddiadau'r pôl yn siom i'r Blaid Lafur yng Nghymru.

Ond mae'r ffigyrau'n tanlinellu un pos ynglŷn â'r etholiad cyffredinol sy' gwta ddeufis i ffwrdd - pam bod David Cameron yn gyfforddus ar y blaen mewn holiaduron personoliaeth fel hon, hyd yn oed mewn cadarnle Llafur fel Cymru, ond bod y ddwy brif blaid mor agos i'w gilydd yn y polau bwriad pleidleisio?

Un ateb posib yw bod etholwyr wedi hen ffurfio barn ynglŷn â'r arweinwyr a bod rhai wedi penderfynu pleidleisio ar sail materion eraill tu hwnt i rinweddau (neu ddiffyg) gwleidyddion unigol.

Mae'n bosib, ar adeg pan mae toriadau i wariant cyhoeddus yn gwestiwn mor ganolog i'r etholiad, fod yn well gan bobl bleidleisio ar sail polisïau'r pleidiau yn fwy nag ar bwy fydd yn byw yn Rhif 10.

Wedi dweud hynny, mae'r Ceidwadwyr yn ffyddiog y bydd canolbwyntio ar y cwestiynau o arweinyddiaeth yn hwb i'w ymdrechion nhw i sicrhau llywodraeth fwyafrifol Geidwadol ar ôl 7 Mai.

Gofynnwyd i bobl ddewis pa sefydliad oedd debycach i wella'u bywyd a bywyd eu teuluoedd a dewisodd 38% y Cynulliad, 26% San Steffan, 20% eu cyngor lleol a 6% yr Undeb Ewropeaidd.

"Beth bynnag yw barn pobl ynglŷn â'r pleidiau sy' mewn grym yn y Cynulliad neu bolisïau Llywodraeth Cymru, mae 'na deimlad bellach ymysg trwch y boblogaeth fod rhyw fath o ewyllys da cyffredinol tuag at y Cynulliad," meddai'r Athro Scully.

"Falle nad ydyn nhw'n cytuno â phob dim sy'n digwydd ym Mae Caerdydd ond maen nhw'n teimlo yn gyffredinol hapus, ac yn tueddu i deimlo fod y Cynulliad yn fwy na'r Senedd yn San Steffan yn agosach at galon cenedl."

Pa un o'r sefydlaidau gwleidyddol sydd fwyaf tebygol i wella eich bywyd a bywyd eich teulu?
Cyngor lleol 20%
Y Cynulliad Cenedlaethol 38%
San Steffan 26%
Yr Undeb Ewropeaidd 6%

Er taw 6% yn unig ddywedodd mai'r Undeb Ewropeaidd oedd y sefydliad gwleidyddol fyddai'n fwyaf tebygol i wella amodau byw, roedd newyddion mwy calonogol i gefnogwyr y sefydliad ar gwestiwn arall.

Dywedodd 63% eu bod yn credu bod mwy o fudd i'r DU i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd tra bod 33% yn dweud y byddai'n well gadael.

Ar nodyn calonogol i lywodraeth leol, dywedodd 84% eu bod o'r farn bod y cyngor lleol yn darparu gwasanaeth canolig neu dda.

O ran y cyngor lleol a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu, yn gyffredinol a ydych yn credu fod y cyngor yn cynnig?
Safon o wasanaeth da 48%
Safon o wasanaeth gwael 16%
Safon o wasanaeth canolig 36%
Image caption Roedd 61% o blaid parhau â'r system bresennol o dalu grantiau i fyfyrwyr o Gymru

Ym myd addysg cafodd pobl eu holi ynglŷn â pholisi'r llywodraeth o dalu grantiau o £5,000 i fyfyrwyr - gan gynnwys myfyrwyr sy'n cael eu haddysg y tu allan i Gymru.

Mae hynny'n golygu bod £90m o arian Llywodraeth Cymru yn mynd i brifysgolion y tu allan i Gymru.

Ond roedd 61% am barhau â'r polisi tra bod 37% yn dweud y dylai'r arian gael ei dalu i fyfyrwyr sy'n aros yng Nghymru yn unig.

Dadansoddiad Arwyn Jones, Gohebydd Addysg BBC Cymru

Dwn i'm fyddai neb yn synnu o weld fod cynifer o bobl yng Nghymru yn cefnogi grant ffïoedd dysgu Llywodraeth Cymru.

Mae o'n fwy hael i fyfyrwyr nag unrhyw ran arall o'r DU.

Daw'r mwyafrif o'r gwrthwynebiad gan y gwrthbleidiau yn y Cynulliad a phrifysgolion Cymru.

Eu dadl nhw ydy eu bod nhw yn "colli" dros £90m bob blwyddyn wrth i fyfyrwyr o Gymru fynd i astudio yn Lloegr.

Yr wythnos ddiwethaf roedd adroddiad gan gorff annibynnol sy'n trafod polisi addysg uwch.

Roedden nhw'n dadlau na ddylai unrhyw sefydliad honni perchnogaeth ar unrhyw arian cyhoeddus.

Mae yna adolygiad o'r polisi yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ac yn ystyried pa newidiadau sydd eu hangen, ond chawn ni ddim gwybod y casgliadau am flwyddyn arall.

Un syniad sy'n cael ei ystyried ydy rhoi arian y grant i fyfyrwyr sy'n aros i astudio yng Nghymru yn unig. Mae'n pôl ni yn awgrymu fod 37% o bobl Cymru yn cytuno â hynny.