Gateshead 3-1 Wrecsam

Image copyright Empics

Er eu llwyddiant yn Nhlws FA Lloegr, mae Wrecsam wedi disgyn i'r 18fed safle yn y Gyngres nos Fawrth wrth iddynt golli o 3-1 yn Gateshead.

Y tîm cartref sgoriodd gyntaf, gydag ergyd Alex Rodman o du allan i'r cwrt cosbi yn canfod cefn y rhwyd.

Aeth y timau i mewn yn gyfartal ar yr hanner ar ôl i Rob Ramshaw roi'r bel i'w rwyd ei hun wedi 26 munud.

Rhoddodd Lynden Gooch Gateshead yn ôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, a sicrhawyd y fuddugoliaeth wrth i Steve Tomassen fod yr ail chwaraewr i roi'r bel i'w rwyd ei hun.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam nawr 20 pwynt i ffwrdd o'u gobaith ar ddechrau'r tymor - safle'r gemau ail gyfle.