Hawliau newydd i siaradwyr Cymraeg gam yn nes

Cymraeg Image copyright Thinkstock

Mae hawliau newydd i siaradwyr Cymraeg gam yn nes wrth i ddogfen ddrafft gael ei chyhoeddi, un sy'n amlinellu'r safonau newydd ar gyfer y Gymraeg.

Fis diwethaf fe ddatgelwyd y byddai'r gwrthbleidiau yn pleidleisio yn erbyn y safonau oni bai eu bod nhw'n cael eu cryfhau.

Yn dilyn cyhoeddi'r safonau ddydd Mawrth maen nhw wedi dweud fod 'na symud i'r cyfeiriad cywir.

Y sector breifat

Dechreuodd y broses greu safonau iaith dair blynedd yn ôl ac mae'r manylion diweddara yn wahanol i'r rhai gododd wrychyn ymgyrchwyr iaith ychydig wythnosau yn ôl.

Mae'r safonau hefyd yn cynnwys y sector breifat - rhywbeth sydd wedi bod yn ddadleuol o'r cychwyn.

Dywedodd Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Sgiliau a'r Iaith Gymraeg: "Mae gwelliant wedi bod ers rheoliadau drafft y llywodraeth.

"O'r chwe phrif bwynt rhoddwyd mewn llythyr i'r Prif Weinidog gan y gwrthbleidiau yn ystod yr ymgynghoriad, bu ateb positif gan y llywodraeth i bedwar ohonyn nhw.

"Ond rydym ni dal yn ansicr sut bydd y safonau iaith yn cael eu gweithredu gan gontractwyr neu wrth roi grantiau i gyrff eraill.

"Bydd Plaid Cymru nawr yn gofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog a chraffu'n fwy manwl ar y safonau iaith."

'Gwendidau'

Pryder rhai yw nad yw rhoi hawliau siarad Cymraeg yn gyfystyr â hyrwyddo'r iaith a chynyddu'r nifer sy'n ei siarad.

Dywedodd Manon Elin, Is-Gadeirydd Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r rheoliadau hyn ymhell o fod yr hawliau clir a dealladwy rydyn ni wedi galw amdanyn nhw.

"Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod bod y llywodraeth wedi gwrando ar rai o'n pryderon. Mae nifer o wendidau'n dal yno - bydd rhaid mynd i'r afael â nhw wrth i'r broses symud yn ei blaen.

"Mae Mesur y Gymraeg wedi addo hawliau i bobl ddefnyddio, dysgu, gweld a chlywed y Gymraeg, felly mae dyletswydd ar y llywodraeth a'r comisiynydd nawr i sicrhau bod pobl yn ymwybodol ac yn cymryd mantais o'u hawliau newydd."