Ymchwiliad yn parhau i farwolaeth Celtic Manor

Ollie Floyd
Image caption Roedd Ollie Floyd yn 20 oed

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau damwain angheuol ar gwrs golff y Celtic Manor ger Casnewydd.

Cafodd Ollie Floyd - 20 oed o ardal Rhosan ar Wy - ei ladd wedi i gerbyd chwistrellu bychan droi ar ei ochr a llithro i lyn.

Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddau ambiwlans a pharafeddyg gael eu hanfon i 'r Celtic Manor am 07:53.

Cafodd Mr Floyd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent mewn cyflwr difrifol iawn a bu farw yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent:

"Cafodd dyn arall 46 oed a hefyd o Rhosan ar Wy ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau."

Bu'r cwrs golff ar gau am gyfnod wedi'r digwyddiad.

Image copyright PA
Image caption Digwyddodd y ddamwain ar gwrs golff y Celtic Manor