Gyda'n Gilydd. Yn Gryfach.

Image copyright PA
Image caption Am y tro cyntaf ers amser mae yna deimlad o berthyn o fewn y garfan, medd Ian Gwyn Hughes

Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n trafod datblygiad y tîm cenedlaethol yn ystod ymgyrch Ewro 2016:

Diddorol oedd darllen erthygl Gareth Davies yn ddiweddar. Roedd Cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru yn trafod pwysigrwydd undod er mwyn llwyddiant y gamp ar bob lefel, p'un ai gyda'r garfan ryngwladol neu gyda'r clybiau.

Ac mae'r un themau yn berthnasol o fewn CBDC. Dros y blynyddoedd diwethaf does dim dwywaith bod yna fwlch wedi bod, bwlch enfawr rhwng ein timau pêl-droed rhyngwladol a'r cyhoedd yng Nghymru.

Mae sawl rheswm am hynny. Y prif ffactor heb os nac oni bai oedd cyfres o ganlyniadau siomedig.

Roedd y cefnogwyr yn credu nad oedd yr awdurdodau na'r chwaraewyr yn cysylltu gyda nhw. Ar y llaw arall, roedd y chwaraewyr byth a beunydd yn cwyno am ddifaterwch.

Image copyright AFP
Image caption Mae yna arwyddion fod pethau yn newid yn araf bach, medd Ian

Felly sut oedd mynd ati i gau'r bwlch?

Roedd yr ateb yn yr arwyddair ar y crys coch enwog - Gorau Chwarae Cyd Chwarae. Wrth chwarae ar y geiriau fe ddaethon ni i'r casgliad mae ein slogan ni ar gyfer ymgyrch Ewro 2016 fyddai 'Gyda'n Gilydd. Yn Gryfach.'

Mae yna arwyddion fod pethau yn newid yn araf bach. Mae'r gefnogaeth hyd yma wedi bod yn wych yn ein gemau cartref ac oddi cartref.

Roedd stadiwm Dinas Caerdydd dan ei sang ar gyfer y gêm yn erbyn Bosnia ac mi roedd y gefnogaeth ym Mrwsel yn wefreiddiol. Felly hefyd y golygfeydd ar ddiwedd yr awr a hanner gyda'r chwaraewyr yn taflu eu crysau i mewn i'r dorf ar y diwedd.

Mae canlyniadau yn cyfrif llawer am hyn, yn fwy nag unrhyw beth. Ond oddi ar y cae mae yna ymgyrch bositif i wneud y chwaraewyr yn ymwybodol o bwy ydyn nhw a phwy maen nhw yn eu cynrychioli.

Image copyright Rhian Jones
Image caption Y gofeb yn Langemarc

Wedi'r canlyniad cyfartal ym Mrwsel fis Tachwedd diwethaf fe aethon ni gyda aelodau o'r staff a'r garfan draw i fynwent Artillery Wood a Chofeb y Cymry yn Langemarc.

Fe ymgasglon ni i gyd o amgylch bedd y bardd Hedd Wyn a gosod popeth yn ei gyd-destun, o ran y Rhyfel, y bardd o Drawsfynydd a'r aberth gan mlynedd yn ôl. Teg dweud bod pob un dan deimlad.

Am y tro cyntaf ers amser mae yna deimlad o berthyn o fewn y garfan ag ymysg y cefnogwyr ffyddlon. Mi rydyn ni yn gweld hynny yn gyson wrth deithio o gwmpas Cymru gyda'r rheolwr Chris Coleman, yn sgwrsio gyda chefnogwyr.

Yn araf bach mae'r teimlad o hyder yn dychwelyd.

Bydd Ian Gwyn Hughes yn ymuno â Iestyn Davies o Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cadan ap Tomos o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Nia Griffith, aelod seneddol Llafur yn Llanelli, ar banel Pawb a'i Farn yn fyw o Ferthyr, nos Iau am 21.30 ar S4C.