Yr etholiad: Pryd, beth, sut a phwy?

Image copyright PA

Pryd fydd yr etholiad cyffredinol nesa'?

Mae'r Ddeddf Senedd Cyfnod Penodol 2011 yn gosod cyfnod o bum mlynedd rhwng etholiadau cyffredinol, ar ddiwedd y cyfnod hwn mae'n rhaid ethol aelodau newydd i Dŷ'r Cyffredin.

Yn sgil y ddeddf, mae'r etholiad i fod i gael ei gynnal y dydd Iau cynta' ym mis Mai bob pum mlynedd.

O'r herwydd, mae dyddiad yr etholiad cyffredinol nesa' wedi ei bennu ar gyfer dydd Iau, 7 Mai, 2015.

Cyn cyflwyno'r ddeddf, roedd y Prif Weinidog yn gallu galw etholiad cyffredinol unrhyw bryd o fewn y tymor o bum mlynedd, a doedd pob Senedd ddim yn para'r cyfnod llawn.

Beth yw'r drefn etholiadol?

Bydd pobl yn bwrw pleidlais er mwyn ethol un ymgeisydd buddugol i gynrychioli'r etholaeth fel Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin, sef is-siambr y llywodraeth.

Mae Cymru wedi'i rhannu'n 40 etholaeth, gyda phob un â'i AS ei hun. Mae 'na 650 o etholaethau trwy'r DU.

Sut mae pleidleisio?

Ar ôl i chi gofrestru eich pleidlais, bydd eich cyngor yn anfon cerdyn pleidleisio atoch cyn yr etholiad yn dweud wrthych pryd a ble i bleidleisio.

Gallwch fwrw eich pleidlais ar ddydd Iau, 7 Mai, rhwng 07:00 a 22:00:

  • mewn gorsaf bleidleisio;
  • drwy'r post;
  • pleidleisio drwy ddirprwy (penodi rhywun yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw i bleidleisio ar eich rhan os nad ydych yn gallu mynd i'r orsaf bleidleisio eich hun)

Os ydych wedi dewis pleidlais bost, yna bydd pecyn yn cael ei anfon atoch tuag wythnos cyn yr etholiad. Ar ôl ei dderbyn, nodwch eich pleidlais a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei bostio fel ei fod yn cyrraedd cyn 22:00 ar ddiwrnod yr etholiad. Os yw'n cyrraedd ar ôl hyn, fydd eich pleidlais ddim yn cael ei chyfri.

Pwy sy'n cael ei ethol?

Caiff pob person sy'n gymwys i bleidleisio un bleidlais a bydd yr ymgeisydd sy'n derbyn y nifer mwyaf o bleidleisiau ym mhob etholaeth yn cael ei ethol. System "y cyntaf i'r felin" yw hon.

Does dim angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael dros hanner y pleidleisiau.

Pwy sy'n ffurfio'r llywodraeth?

Fel rheol, y blaid sydd â'r nifer mwyaf o bleidleisiau sy'n ffurfio'r llywodraeth, gydag arweinydd y blaid honno'n dod yn brif weinidog.

Os nad oes un blaid â mwyafrif, yna mae yna'r hyn sy'n cael ei alw yn senedd grog.

Gall y blaid fwyaf ffurfio llywodraeth leiafrifol, neu mae modd ffurfio llywodraeth glymblaid rhwng dwy blaid neu fwy.

Dyma ddigwyddodd yn 2010 pan gytunodd y Ceidwadwyr, oedd â 36% o'r bleidlais, i ffurfio llywodraeth glymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd â 23% o'r bleidlais.

Faint o ogwydd sydd ei angen i gael llywodraeth fwyafrifol y tro hwn?

Byddai'r Ceidwadwyr angen gogwydd cyffredinol o 2% yn 2015 er mwyn ennill yr 20 sedd ychwanegol sydd eu hangen i lywodraethu ar eu pen eu hunain.

Yn eu tro, byddai Llafur angen gogwydd cyffredinol o 5% i ennill y 68 sedd sydd eu hangen i ennill mwyafrif.

Mewn ffordd, mae hyn yn golygu bod y Ceidwadwyr angen ennill seddi gan bleidiau eraill gyda mwyafrif o hyd at 4%; mae gan Lafur her anoddach o ennill seddi gyda mwyafrif o hyd at 10%.

Image copyright PA

Straeon perthnasol