Saith Diwrnod

John Davies
Image caption Cwbl haeddiannol yw'r galar dros John Davies a'i fath yn ôl Cris Dafis

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Mae cylchgrawn Barn yn rhoi lle anrhydeddus bob amser i ysgrifau coffa, a'r mis yma mae'n cynnwys nifer o deyrngedau teilwng i Gymry a gollwyd yn ddiweddar - Eddie Jones, Mari Ellis, Rhys Jones a John Bwlchllan yn eu plith.

Fe aeth y cylchgrawn i'r wasg cyn y newyddion am Merêd a John Rowlands, ond does dim amheuaeth y bydd y ddau hyn yn cael eu cofio hefyd y mis nesaf.

Wrth feddwl am y colledion hyn i Gymru ym misoedd cyntaf eleni, dywed Cris Dafis yn Golwg mai cwbl haeddiannol yw galar y genedl drostynt.

'Sbarc ym mywyd pobl iau'

Ond dyw Cris ddim yn credu, fodd bynnag, y byddai'r un ohonyn nhw am i ni alaru'n rhy hir, ac mae tinc apocalyptaidd ambell deyrnged wedi ei anesmwytho braidd, gyda phobl yn datgan yn glir na weliff Cymru byth eto wŷr a gwragedd o allu, argyhoeddiad a dylanwad cyffelyb, ac eraill yn awgrymu na all neb lanw eu hesgidiau na'r bwlch maen nhw'n gadael ar eu hôl.

Mae gwirionedd yn hyn wrth gwrs, medd Cris, mae pob unigolyn yn unigryw, a ffwlbri yw ceisio chwilio am unigolion i gymryd lle'r sawl a'n gadawodd. Ond er gwaethaf pob bwlch, mae 'na fylchau eraill, gwahanol yn cael eu llenwi gan unigolion eraill, gwahanol.

Ac mae Meg Elis yn ei blog, yn gofyn be naeth y bobl hyn? Y cewri sydd wedi mynd? Yr ateb - rhoi sbarc ym mywyd pobl iau.

Gwneud iddyn nhw sylweddoli nad peth unffurf yw traddodiad, na ddaeth ein hanes i ben efo'r Tywysogion, a bod modd i athronydd gyfarwyddo rhaglenni teledu. Rydan ni'n sglefrio oddi ar rew Ionawr a Chwefror, medd Meg, i wyrddni cynnar y gwanwyn.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r etholiad cyffredinol yn agosau, ond does dim enillydd amlwg ar hyn o bryd

Ac wrth edrych ymlaen at ddiwedd y gwanwyn, mae'r sylwebwyr gwleidyddol yn dechrau cynhesu a chyffroi wrth feddwl am yr etholiad cyffredinol sydd rhyw ddeufis i ffwrdd.

Yn ôl Richard Wyn Jones yn Barn, fe all pethau newid yn sylfaenol dros yr wythnosau sy'n weddill. Gall sgandal, cyflafan neu ryfel daflu popeth oddi ar ei echel. Ar hyn o bryd, dywed nad oes enillydd amlwg, ac mewn sefyllfa o'r fath gallai dwy blaid Gymreig fod yn ddylanwadol tu hwnt.

Yn amlwg, gallai seddi Plaid Cymru fod yn hollbwysig i unrhyw lywodraeth yn San Steffan, ond camgymeriad medd Richard fyddai anwybyddu'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig. Er bod cefnogaeth y blaid ar lawr gwlad wedi chwalu, dyw hyn ddim yn golygu iddi fod heb ddylanwad yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Un o'r storiâu cudd yw'r modd y dibynnodd Llywodraeth Cymru ar ddylanwad Kirsty Williams dros Nick Clegg pan oedd David Jones yn tanseilio'r berthynas rhwng Llundain a Chaerdydd. A dywed mai er mai go brin y bydd unrhyw un yn diolch iddi, rydym ni gyd yn ddyledus i Kirsty Williams yn hyn o beth.

'MAMIL'?

Image copyright Thinkstock
Image caption Ydych chi wedi eu gweld nhw, y MAMILs?

Un arall sy'n edrych ymlaen at y gwanwyn yw Lefi Gruffudd. Yn ystod y misoedd diwethaf, meddai yn y Western Mail, mae wedi cael awch eithaf ffasiynol i bobl ei oedran, sydd yn ôl rhai yn cael rhyw fath o argyfwng canol oed, sef beicio.

O fod yn diawlio beicwyr am amharu ar ei deithiau car, mae bellach yn diawlio ceir am beidio rhoi cymaint o le ac amser i'r ceffyl haearn ag y maen nhw i geffylau cig a gwaed.

Er mai i gadw'n iach ac i safon isel mae'n beicio, mae'n ofni bod arwyddion o salwch y MAMIL yn dechre dod i'r amlwg. MAMIL? Middle aged man in lycra. Bobl Ceredigion - rydych chi wedi cael eich rhybuddio…