'Cyfle aruthrol' i gael setliad ariannol gwell i Gymru

yr Arglwydd Wigley
Image caption Mynegodd ei farn bod gan y blaid "gyfle aruthrol" i ennill setliad ariannol gwell i Gymru

Mae'r SNP yn cefnogi galwad Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru gael ei hariannu yn yr un ffordd â'r Alban, meddai cyn-arweinydd y blaid, yr Arglwydd Wigley ddydd Sadwrn.

Mae'r ddwy blaid wedi anhytuno yn y gorffennol ar gyllid datganoledig, gyda Phlaid Cymru am gael gwared ar y system bresennol, ond mae'r SNP o blaid ei chadw.

Mae arian y DU yn cael ei rannu i'r gwledydd datganoledig drwy Fformiwla Barnett, gafodd ei ddyfeisio yn y 1970au.

Ond cafwyd addewid trawsbleidiol yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban i gynnal lefelau gwariant cyhoeddus yn yr Alban, ac mae'n ymddangos bod hynny wedi dileu unrhyw wrthwynebiad gan yr SNP i ddiwygiadau ar gyfer Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Wigley wrth gynhadledd y blaid yng Nghaernarfon: "Rwy'n falch o ddweud wrth y gynhadledd bod gennym ddealltwriaeth gan ein cyfeillion yn yr SNP eu bod hefyd yn cefnogi rhoi'r un setliad ariannol â'r Alban i Gymru."

Mynegodd ei farn bod gan y blaid "gyfle aruthrol" i ennill setliad ariannol gwell i Gymru i gyfateb i lefelau yr Alban.

Mae cyllid yn debygol o fod yn rhan allweddol o unrhyw drafodaethau wedi'r etholiad rhwng Plaid Cymru, yr SNP a Llafur, os yw Llafur yn brin o fwyafrif ar ôl y diwrnod pleidleisio.

'Hanfodol'

Mae llwyddiant i Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol yn 'hanfodol' i anghenion Cymru, meddai yr Arglwydd Wigley, cydlynydd yr ymgyrch etholiadol, gan ychwanegu y gallai Cymru gael ei diystyru os nad yw Plaid Cymru yn ennill mwy o seddi yn San Steffan.

Mae Plaid Cymru ar hyn o bryd yn dal tair sedd yn San Steffan, ac os oes senedd grog mae'r blaid yn pwysleisio y gallai fod yn rhan o drafodaethau clymblaid yn San Steffan - naill ai ar ei phen ei hun neu gyda'r SNP a'r Blaid Werdd.

Ym mis Ionawr, anogodd yr Arglwydd Wigley gefnogwyr y Blaid Werdd yng Nghymru i bleidleisio i Blaid Cymru mewn etholaethau ble gallai'r cenedlaetholwyr ennill sedd.

Cefnogi busnesau

Image caption Hywel Williams: "polisïau ymarferol fydd yn helpu busnesau"

Hefyd yn y gynhadledd, dywedodd AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams fod cefnogi busnesau yn flaenoriaeth uchel i Blaid Cymru, a bod gan y blaid bolisïau ymarferol "fydd yn helpu busnesau, creu swyddi a rhoi hwb economaidd".

Dywedodd y byddai eu cynllun rhyddhad trethi busnes yn helpu 83,000 o fusnesau bach gyda'u trethi a chodi 70,000 allan o drethi yn gyfan gwbl, a "thrwy gynyddu nifer y contractau sector cyhoeddus sy'n cael eu rhoi i gwmnïau lleol, gallem gefnogi 50,000 o swyddi ar hyd a lled Cymru".

Araith olaf

Cododd y cynadleddwyr ar eu traed ar ôl araith olaf Elfyn Llwyd i'r gynhadledd fel aelod seneddol Dwyfor Meirionnydd ac arweinydd seneddol Plaid Cymru, cyn iddo sefyll i lawr ym mis Mai.

Dywedodd Mr Llwyd, a gafodd ei ethol yn gyntaf yn 1992, ei fod wedi gweld dylanwad grŵp Plaid Cymru yn San Steffan "yn mynd o nerth i nerth" dros y 23 mlynedd ac yr oedd yn "hynod o falch o'n llwyddiannau yn yr amser hwnnw".

Image caption Mae Mr Llwyd wedi bod yn aelod seneddol am 23 o flynyddoedd

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.