Gareth Warburton yn rasio eto

Gareth Warburton Image copyright Getty Images

Wedi iddo gael ei wahardd rhag cystadlu am chwe mis, mae'r rhedwr Gareth Warburton yn ei ôl ac yn cystadlu mewn pencampwriaeth dan do yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Fe gafodd Warburton a Rhys Williams - y cyn bencwmpwr Ewropeaidd 400m dros y clwydi - eu cosbi wedi i brofion ddangos eu bod nhw wedi cymryd sylweddau oedd wedi eu gwahardd.

Mae'r bencampwriaeth ddydd Sul yn gyfle i athletwyr dan 20 oed o Gymru gystadlu yn erbyn talentau o Loegr.

Bydd Warburton yn rhedeg fel gwestai arbennig yn rownd derfynol y ras 800m.

Seren y byd paralympaidd, Aled Sion Davies yw capten Tîm Cymru y penwythnos hwn.