Sir Gâr: Treth cyngor yn cynyddu 4.85%

Money Image copyright PA

Bydd treth cyngor yn cynyddu 4.85% i drigolion Sir Gâr, sy'n golygu y bydd yn costio £49 yn fwy yn ystod y flwyddyn ariannol i ddod.

Roedd cynghorwyr Plaid Cymru eisiau i ragor o gynilon yr awdurdod gael eu defnyddio er mwyn gostwng y cynydd.

Ond fe gafodd y cynnig hwnnw ei wrthod mewn cyfarfod ddydd Gwener.

Mae'r cynnydd yn golygu y bydd treth cyngor eiddo Band D yn costio £1076.22.