Menyw wedi marw mewn tŷ ym Mhontcanna, Caerdydd

Roedd cerbydau'r heddlu y tu allan i'r tŷ ddydd Sadwrn
Image caption Roedd cerbydau'r heddlu y tu allan i'r tŷ ddydd Sadwrn

Mae'r heddlu'n ymchwilio, wedi i fenyw 56 oed gael ei chanfod wedi marw mewn tŷ ym Mhontcanna, Caerdydd.

Fe gafodd y gwasanaethau bryd eu galw i ardal Severn Grove fore Sadwrn.

Nawr, mae Heddlu'r De yn ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth.