Stevenage 2-1 Casnewydd

Stevenage 2-1 Casnewydd

Fe symudodd Stevenage uwchben Casnewydd yn yr Ail Adran wrth eu trechu bnawn Sadwrn.

Wedi hanner awr o chwarae, fe beniodd Charlie Lee y bel i'r rhwyd, a pheniad gan Bira Bembele sicrhaodd ail gôl y tîm cartref.

Fe sgoriodd Adam Chapman gôl gysur i Gasnewydd - oedd i lawr i 10 dyn wedi i Chris Zebroski adael y cae ar ôl dau gerdyn melyn.