Adroddiad: Angen banc newydd ar Gymru

Arian

Mae panel o arbenigwyr wedi argymell sefydlu banc masnachol cyhoeddus newydd fyddai'n "gatalydd" ar gyfer helpu economi Cymru i barhau i dyfu.

Roedd yr Athro Dylan Jones-Evans yn arwain panel oedd yn ymchwilio i bryderon nad oedd cwmnïau'n gallu benthyg arian angenrheidiol ar gyfer ehangu a chyflogi mwy o weithwyr.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod "y farchnad yn methu" o ran sicrhau bod cyllid ar gael.

Gall y banc datblygu, y cyntaf o'i fath ar gyfer y DU, gael "effaith sylweddol" ar fusnesau bychain.

Dyma adroddiad terfynol y panel, gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael ei arwain gan yr Athro Dylan Jones-Evans, sydd yn arbenigwr busnes ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.

Sefydlwyd yr adroddiad, gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, gan Weinidog yr Economi Edwina Hart i edrych ar allu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ganfod cyllid.

Darganfuwyd yn yr adroddiadau blaenorol bod bwlch o £500m y flwyddyn rhwng beth mae busnesau eisiau ei fenthyg a beth y mae'r banciau yn fodlon ei fenthyg.

'Blaenoriaeth'

Gall y galw am fanc datblygu olygu diwedd ar Cyllid Cymru.

Dywedodd yr Athro Jones- Evans: "Ni fydd yr opsiynau sy'n cael eu darparu gan Gyllid Cymru, fel is-gwmni o Lywodraeth Cymru, yn gallu mynd i'r afael â'r her o gau'r bwlch ariannu i fusnesau bychain a chanolig yng Nghymru."

Mae'n awgrymu cyfuno nifer sylweddol o'i gyfrifoldebau, drwy ei uno neu ei gyfuno gyda'r banc datblygu.

Ychwanegodd: "Mae sicrhau cyllid i fusnesau yn flaenoriaeth rhy bwysig i'w roi i sefydliad sydd wedi methu ag addasu'n ddigonol i gyflwr y farchnad."

Gweinidog yr Economi Edwina Hart fydd yn gwneud y penderfyniad ar ddyfodol Cyllid Cymru, a hi fydd yn pwyso a mesur casgliadau adroddiad y pwyllgor sydd yn awgrymu sefydlu banc newydd i hybu'r economi.

Roedd adroddiadau blaenorol yr Athro Jones-Evans wedi bod yn feirniadol iawn o Cyllid Cymru, gan awgrymu nad oedd yn addas i'w bwrpas.

'Cydweithio'

Dywedodd yr Athro Jones-Evans bod angen annog banciau'r stryd fawr i fenthyg arian i gwmnïau, gan sicrhau bod y banc datblygu yn "cydweithio gyda'r" sector cyllid preifat yn hytrach na "chystadlu" gyda'r sector hwnnw.

Gallai'r banc datblygu gyfuno benthyciadau, grantiau, a chyngor ar fusnes, i gyd mewn un lleoliad.

Ar hyn o bryd, gall cwmnïau wneud cais am wahanol fenthyciadau drwy Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyllid Cymru.

Mae beirniaid y banc datblygu wedi codi pryderon y byddai'r banc dan ddylanwad uniongyrchol Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Cyllid Cymru, sy'n gorff hyd-braich.

'Mae'n bryd gweithredu'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyllid: "Dyma'r trydydd adroddiad o'i fath a wnaed gan y llywodraeth hon, a daw pob adroddiad i'r un casgliad - bod angen Banc Cymru i helpu busnesau bach Cymru i gael mynediad at gyllid ac i gefnogi'r sector pwysig hwn.

"Mae Plaid Cymru wedi cydnabod yr angen hwn ers tro byd, ac wedi galw am fanc datblygu busnes newydd ers 2009.

"Mae arnom angen i gyllid fod ar gael yn rhwydd i fusnesau newydd a sefydledig i annog nid yn unig cychwyn busnesau ond eu hehangu.

"Mae'r llywodraeth hon wedi cael hen ddigon o adolygiadau - mae'n bryd gweithredu yn awr."