Amddiffyn y Lluoedd Arfog

mod aled huw Image copyright Reuters

Mewn blog diweddar ar Cymru Fyw mi fuodd Rhys Llwyd, gweinidog yn ardal Caernarfon, yn gofyn oes na wahaniaeth mewn gwirionedd rhwng dulliau recriwtio IS a Lluoedd Arfog Prydain.

Mae Aled Huw Thomas, cyn-gaplan gyda'r Lluoedd Arfog yn ymateb i rai o bwyntiau Rhys:

Tôn gron

O dro i dro, o ddiogelwch pulpud neu gludwch stydi, teimla gweinidog neu golofnydd a berthyn i garfan basiffistaidd yr eglwys, rheidrwydd i gondemnio yr hyn a ystyria yn "filitariaeth".

Hen dôn gron yw'r ddadl hon sy'n codi ei phen yn gyson yn y byd crefyddol cecrus sydd gennym fel Cymry Cymraeg.

Gan amlaf, does gan y bobl hyn ddim profiad o fywyd yn y Lluoedd Arfog, heb son am fyw neu weithio mewn gwlad Fwslemaidd lle mae effeithiau creulon eithafwyr Islamaidd i'w gweld ym mywyd y trigolion.

Rhydd i bawb ei farn a phob barn ei llafar, ond peidied neb ac anghofio bod yr hawl i leisio barn fel ac sydd gennym yng ngwledydd y Gorllewin yn fraint sydd gennym o ganlyniad i fodolaeth Lluoedd Diogelwch yn y lle cyntaf.

Cymhariaeth Naïf

Mae'r gymhariaeth a wna'r Parch Rhys Llwyd rhwng dulliau recriwtio "milwyr" ISIS yn recriwtio merched ifanc i'w rhengoedd a swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn yn recriwtio i Luoedd cyfansoddiadol gwlad democrataidd yn naïf ar ei orau.

Ar ei waethaf, mae'n sarhad ar y cannoedd o filwyr Cymreig a'u teuluoedd, sydd yn penderfynu o'u gwirfodd i ddilyn gyrfa yn y Lluoedd Arfog.

Image copyright Metropolitan police
Image caption Pa wahaniaeth sydd yna rhwng dulliau recriwtio yr Islamic State a swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn? Cwestiwn Rhys Llwyd.

Yn wahanol i ISIS, dyw Byddin Prydain ddim yn recriwtio merched pymtheg oed! Ni fydd yr un recriwt i fyddin Prydain yn cario arf nes ei fod yn ddeunaw oed.

Mae'r gwahaniaeth ethos rhwng swyddogaeth yr eithafwr Islamaidd o derfysgwr a'r milwr a berthyn i Fyddin cyfansoddiadol gwlad democrataidd fel sydd gennym, yn amlwg.

Dyw gorfodaeth milwrol ddim yn bodoli yn ein gwlad mwyach. Da o beth yw hynny. O ganlyniad mae gennym Luoedd sy'n cyflawni eu gorchwylion anodd a pheryglus ar ran ein Llywodraeth gydag ymroddiad a dewrder.

At hynny, mae pobl ifanc yn ymuno â'r Fyddin o'u gwirfodd i ddilyn amryw o alwedigaethau.

Cofiwn mai arf yn nwylo Llywodraeth y dydd ydyw byddin mewn gwlad democrataidd. Nid junta milwrol sy'n ein llywodraethu o San Steffan!

"Ffetish miliwriaethus?"

Gresyna Rhys Llwyd at yr hyn a wêl fel "ffetish milwriaethus" ein cymdeithas. Mae'n tynnu ein sylw at bresenoldeb band militaraidd Y Gwarchodlu Cymreig yn Stadiwm y Mileniwm. Beth ar wyneb ddaear sydd o'i le ar hynny?

Gwelir yr un peth ar feysydd chwarae ein cefndryd Celtaidd yn yr Iwerddon a'r Alban. Does bosib bod y gwledydd hynny yn dioddef o "ffetish miliwiaethus"? Gellid dadlau bod haka y Crysau Duon yn fwy bygythiol ar faes chwarae na phresenoldeb band pres mewn lifrai hynafol yng nghwmni mascot o afr!

Anodd hefyd gen i gredu bod elfennau militaraidd seremoniol dinesig ein gwlad yn annog pobl ifanc i ddewis ymaelodi yn rhengoedd y terfysgwyr.

Image caption Yr 'haka' yn fwy bygythiol na milwyr yn eu lifrai?

'Penderfyniadau aeddfed'

Mae rhychwant o fudiadau yn ymweld â'n hysgolion ar gais a gyda chaniatad Penaethiaid a Llywodraethwyr, o Gymdeithas y Cymod, Yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc, i'r Cadetiaid. Cefnoga'r Fyddin gweithgareddau'r Cwricwlwm Cenedlaethol o fewn i'n hysgolion yn ôl y gofyn.

Does bosib nad yw'n pobl ifanc yn meddu ar yr allu i wahaniaethu rhwng yr amrywiol leisiau sy'n gosod eu stondin mewn neuadd ysgol ar noson gyrfaoedd ac i wneud penderfyniad aeddfed ynglyn â'r hyn sy'n cael ei gynnig?

Yma yng Nghymru dylem gofio bod yna draddodiad Cristnogol nad yw'n bastiffistaidd feirniadol ei agwedd tuag at ein Lluoedd Diogelwch- a Chymry nodedig megis, Cynan, Dewi Emrys, Saunders Lewis ac amryw o'n henwogion cenedlaethol yn perthyn iddi.

Dylai'r rhai ohonom sy'n pregethu o'n pulpudau neu'n golofnwyr sy'n traethu o'n cadeiriau esmwyth, gofio bod gennym y rhyddid a'r cyfle i wneud hynny mewn gwlad sy'n rhydd o orthrwm - a'r rhyddid hynny'n cael ei ddiogelu gan bresenoldeb dynion a merched ifanc sydd wedi ymroi o'u gwirfodd i wasanaethu ein gwlad.

Wrth fyfyrio uwch y ddesg efallai y dylem edrych trwy'r ffenest a syllu ymhellach na chlwyd yr ardd!

Ydych chi'n cytuno gyda Aled Huw Thomas neu Rhys Llwyd?

Cysylltwch gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw

Image copyright PA
Image caption Mae pobl yn ddigon aeddfed i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â ymuno gyda'r fyddin medd Aled Huw Thomas