Damwain angheuol ar yr A55

Gwrthdrawiad A55 Image copyright Astrid Ensslin

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dwy lori, fan a cherbyd arall ger cyffordd 25 ar ffordd yr A55 yn Llansansiôr ger Abergele fore Mawrth.

Cafodd dyn arall ei gludo i'r ysbyty ond nid yw ei anafiadau yn rhai difrifol yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r digwyddiad am 08:30 ar ochr orllewinol y ffordd, ac fe gafodd traffig ei ail-gyfeirio. Mae disgwyl i'r ffordd fod ar gau i gyfeiriad y gorllewin am nifer o oriau.

Dywed yr heddlu y bydd traffig sydd yn teithio tua'r dwyrain yn cael ei effeithio hefyd.

Yn ddiweddarach ddydd Mawrth bu damwain arall ger cyffordd 31 ar yr A55 tua'r gorllewin, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a chwe char. Digwyddodd y ddamwain am 14:40 ger y Waun wrth Lanelwy ac mae'r lon tua'r gorllewin ar gau yma hefyd.

Mae'r heddlu yn ymdrechu i ail-agor un lon o'r ffordd ger safle'r ddamwain gynharach, ond fe allai'r ail ddamwain olygu oedi hir i deithwyr yn ystod traffig oriau brig nos Fawrth.