Dim newid i dîm Cymru i herio Iwerddon

Dan Biggar Image copyright Rex Features

Mae Warren Gatland wedi dewis yr un tîm i wynebu Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn a gurodd Ffrainc ym Mharis fis diwethaf.

Mae Scott Baldwin yn cadw ei le yn y rheng flaen, er i fachwr y Scarlets, Ken Owens, gael ei alw i'r garfan ddydd Llun.

Mae dau newid ar y fainc, gyda Rob Evans yn cymryd lle Paul James sydd wedi anafu ei fawd, a Jake Ball yn cael ei gynnwys yn lle Bradley Davies.

Sam Warburton fydd yn gapten ar y tîm, a hynny am y 34ain tro, gan dorri record Ryan Jones.

'Brwydr enfawr'

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, bod ei dîm yn benderfynol o adeiladu ar y fuddugoliaeth dros Ffrainc.

"Rydyn ni'n ôl yn Stadiwm y Mileniwm ar ôl dwy gêm anodd oddi cartref a dwy fuddugoliaeth ac fe fyddwn yn gobeithio adeiladu ar hynny," meddai.

"Fe welon ni welliant yn erbyn yr Alban ac yna cam ymlaen arall yn erbyn Ffrainc ac rydyn ni'n gwybod y bydd angen i ni wneud yr un peth yr erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.

"Iwerddon yw'r tîm sy'n chwarae orau yn Ewrop ac rydyn ni'n gwybod y bydd yn frwydr enfawr."

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Sam Warburton yn gapten ar Gymru am y 34ain tro, gan dorri record Ryan Jones

Ychwanegodd: "Mae'r newidiadau ar y fainc yn golygu bod Rob Evans yn cael cyfle. Rydyn ni wedi plesio gydag o i'w ranbarth ac wrth hyfforddi.

"Mae gyda ni sawl chwaraewr da yn yr ail reng ac mae Jake yn dod yn ôl i'r garfan."

Tîm Cymru v. Iwerddon: Stadiwm y Mileniwm, dydd Sadwrn 14 Mawrth am 14:30:

Olwyr: Leigh Halfpenny (Toulon), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch);

Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, CAPT), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Richard Hibbard (Caerloyw), Rob Evans (Scarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).