Damwain A470: 'Lwcus i fod yn fyw'

Rhys Hunter
Image caption Rhys Hunter

Mae llanc 17 oed oroesodd y gwrthdrawiad laddodd bedwar person ddydd Gwener wedi siarad gyda'r BBC.

Roedd Rhys Hunter, o'r Barri ym Mro Morgannwg, yn teithio yng nghefn car oedd yn cael ei yrru gan ei gyfaill Rhodri Miller.

Bu farw Rhodri Miller, ei gariad Alesha O'Connor, eu ffrind Corey Price a Margaret Challis - menyw 66 oed oedd yn teithio mewn car arall - yn y gwrthdrawiad.

Cafodd tri pherson arall eu cludo i'r ysbyty, ac mae un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol iawn ond sefydlog.

Dywedodd Rhys ei fod yn teimlo'r lwcus iawn i ddianc gydag ychydig anafiadau - torrodd ei glun a chafodd man friwiau a chleisiau.

Yn y cyfweliad dywedodd: "Fe ges i lawdriniaeth ar fy nghoes ac maen nhw wedi rhoi darn o fetel ynddo ac fe fydd hwnnw gen i am weddill fy oes.

"Mae'n dangos y gallwch chi golli'ch bywyd mewn mater o eiliadau, ac fe all ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg.

"Ro'n i'n gwisgo cadwyn am fy ngwddf a gefais pan fuodd fy nain farw, ac rwy'n hoffi meddwl ei bod yn gwylio drosof ac wedi fy helpu i oroesi oherwydd rwy'n lwcus iawn o ystyried beth ddigwyddodd i bobl eraill."

Straeon perthnasol