Profion yn dangos dim Ebola yng Nghaerdydd

Mae profion ar glaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi dangos nad yw'n dioddef o Ebola.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd claf, sydd â hanes o deithio i Orllewin Affrica ei brofi am y clefyd Ebola.

Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nad yw'r unigolyn a gafodd ei brofi am Ebola ddydd Mawrth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dioddef o'r clefyd.

"Nid oes unrhyw reswm i gredu bod unrhyw berygl i iechyd y cyhoedd."