Lleisiau menywod o lawr y ffatri

O weithio mewn ffatri gwneud corsedau i greu ffrwydron mae profiadau dros 200 o fenywod oedd yn gweithio yn ffatrïoedd Cymru yn y ganrif ddiwethaf wedi eu casglu gan Archif Menywod Cymru.

Bwriad prosiect Lleisiau o Lawr y Ffatri ydy tynnu sylw at gyfraniad menywod i'n diwydiannau gweithgynhyrchu.

"Er bod arwyddocâd y diwydiannau gweithgynhyrchu i economi Cymru yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd yn cael ei gydnabod, caiff cyfraniad allweddol y menywod ynddynt eu hanwybyddu droeon," meddai Catrin Stevens, cydlynydd prosiect Lleisiau o Lawr y Ffatri gan Archif Menywod Cymru.

Cyn i'r atgofion fynd yn angof mae'r archif wedi gwneud 210 o gyfweliadau, 60 yn y Gymraeg, gyda menywod yn disgrifio bywyd a gwaith mewn 208 o ffatrïoedd gwahanol. Fe fyddan nhw i'w cael ar wefan newydd Lleisiau o Lawr y Ffatri.

Dyma rai o leisiau a phrofiadau menywod Cymru oedd yn rhan o'r prosiect:

Ffatri 'Tic Toc', Ystradgynlais

Image copyright Archif Menywod
Image caption Rhai o weithwyr Ffatri 'Tic Toc' Ystradgynlais, Nadolig 1954 (Llun: Mair Williams)

"O'dd pawb wrth eu bodd i ga'l swydd 'na achos o'dd dim byd 'ma ... dim byd i ferched erioed ... ar wahân i fynd i sgrwbo neu rywbeth fel'na. One pound two and six o'dd 'y 'nghyflog cynta' i. O'n i'n meddwl bo fi'n gyfoethog!" - Joyce Evans

Roedd ffatri gwneud oriorau (watches) Anglo-Celtic Co. Ltd. yn Ystradgynlais yn cael ei adnabod yn lleol fel 'ffatri Tic Toc'. Roedd yn cyflogi cannoedd o bobl o Gwm Tawe, Dyffryn Aman a Dyffryn Dulais.

Roedd angen gwaith manwl iawn i gynhyrchu'r oriaorau ac roedd mwyafrif y gweithlu yn fenywod.

Ffatri ddillad Alan Paine, Rhydaman

Image copyright Archif Menywod
Image caption Nan Morse: "O'dd e fel 'jail sentence'"

"O'dd e fel jail sentence… O'ch chi'n eistedd yn eich sêt ac yn 'neud yr un peth o fore gwyn tan nos. O'ch chi'n mynd i ga'l cino, ac o'ch chi'n dod nôl a neud yr un peth. Ac o'ch chi'n mynd gatre. Ac oedd e fel ... o'n i'n teimlo fel 'sen i mewn bocs." - Nan Morse

Cwmni Seisnig yw Alan Paine ond roedd ganddo weithwyr yn Rhydaman o'r 1940au hyd at 2001. Mae'n debyg fod siwmperi a chardigans gwlân y cwmni wedi eu gwisgo gan Edward VIII, chwaraewyr Wimbledon, tîm rhwyfo Rhydychen a George Mallory ar ei daith drychinebus i ben Everest yn 1924.

Ffatri Bop Corona, Porth, Rhondda

Image copyright Archif Menywod
Image caption Maureen Jones

"O'dd dwy oferól 'da ni ac un pâr o glocsie. Os elen ni mas amser cinio, o'n nhw'n gallu clywed ni'n dod filltir bant ... O'n nhw i gyd yn gwbod bod ni'n dod o Corona, oherwydd y clocsie." - Maureen Jones

Roedd ffatri bop Thomas ac Evans yn y Porth yn gwmni enwog ar ddechrau'r 20fed ganrif oedd yn gwerthu pop Corona dros Brydain. Caeodd y cwmni yn 1987 a bu'r adeilad wedyn yn stiwdio deledu a cherddoriaeth i gwmni Avanti am 10 mlynedd.

Ffatri Gorsedau, Caernarfon

Image copyright Archif Menywod
Image caption Dilys Wyn Jones: "Oedden ni'n cael ein cwcio'n fyw"

"Llawr concrit oedd o, ac oedd 'na lwch yna, calch oddi wrth y corsets. A dyn yn dod â dŵr i mewn, mewn watering can.

"Wedyn oedd o'n mynd rownd y lle fel 'na a watero'r llawr, er mwyn cadw'r llwch i lawr.

"Ac oedd hi'n oer yno, doedd 'na ddim heating, na dim byd, 'sti. Ond i fyny'r grisiau, oedd 'na ffenestri tŷ gwydr a pan oedd hi'n haf, oedd hi'n berwi. Oedden ni'n cael ein cwcio'n fyw." - Dilys Wyn Jones.

Roedd ffatri gorsedau Caernarfon hefyd yn cael ei hadnabod fel y 'ffatri staes'.

Hufenfa Felin Fach, Ciliau Aeron, Ceredigion

Image copyright Archif Menywod
Image caption Meiryl James, ar y dde, yn Hufenfa Felin Fach

Un o staff yr hufenfa oedd Meiryl James. Mae i'w gweld yn y llun uchod, ar y dde, yn profi llaeth ar y dec yn yr Hufenfa, tua 1959.

Agorodd Hufenfa Felin Fach gan y Bwrdd Marchnata Llaeth yn 1951. Gan dderbyn llaeth o 2,000 o ffermydd lleol roedd yn ganolfan ar gyfer dosbarthu llaeth a chynhyrchu menyn a llaeth powdr.

Ffatri Ffrwydron Cookes, Penrhyndeudraeth

Image copyright Archif Menwyod
Image caption Susie Jones: "Bu gweithio yn y gwaith yn brofiad ac yn agoriad llygad"

"Ni chefais ysgol uwch na choleg ond bu gweithio yn y gwaith yn brofiad ac yn agoriad llygad ac roedd cymeriadau annwyl a chlyfar i'w canfod yn ein mysg." - Susie Jones

Roedd y ffatri'n eiddo i Cookes Explosives Ltd ac yn creu ffrwydron ar gyfer y rhyfel gan roi hwb mawr i economi'r ardal ar y pryd. Fe gaeodd y ffatri yn 1997 ac mae nawr yn safle i warchodfa natur.

Roedd ffrwydriad yn y ffatri yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe ysgrifennodd athrawes o Minffordd, o'r enw Catherine Williams, am y digwyddiad mewn llythyr at ei chyfneither yn 1915.

Gwaith tunplat y Mansel, Aberafan

Image copyright Archir Menywod
Image caption Isabel Thomas

"Wedodd 'n whâr i o'dd yn gwitho 'na ar y pryd, wrth y rheolwr mod i'n edrych am waith, a wedodd e 'Faint yw 'i hoedran hi?'

"'14 wedodd hi..... '. 'Faint yw 'i hoedran hi?' wedodd e 'to. 'O.... 16!' wedodd hi. Felly dechreues i witho yn gwaith tun y Mansel... ond o'dd e'n galed iawn." - Isabel Thomas

Yn wahanol i'r gwaith dur gerllaw ym Mhort Talbot, lle nad oedd prin ddim merched yn gweithio, roedd rhai elfennau o waith tunplat yn cael ei ystyried yn addas i fenywod.

Fe gollodd Gwaith Tunplat y Mansel nifer fawr o ddynion i ymgyrchoedd recriwtio'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y 19eg ganrif roedd tua hanner y tunplat a gynhyrchwyd yn y byd yn dod o Lanelli a'r ardaloedd gerllaw.

Ffatri Byjamas Aykroyd, Y Bala

Image copyright Archif menywod
Image caption Catherine Parry: "Oedd o'n lot o bres"

"Dw i'n cofio y tro cyntaf, y cyflog cyntaf ges i oedd £11 a rhywbeth am 40 awr. Ond oedd o'n lot o bres." - Catherine Parry

Roedd ffatri gwneud pyjamas Aykroyd yn cyflogi dros 60 o weithwyr lleol yn y Bala pan gaeodd yn 2007 wrth i'r cwmni fuddsoddi mwy yn eu gweithlu yn China. Er hynny, mae ganddyn nhw ganolfan yn dal i fod yno.

Bydd gwefan ac adroddiad terfynol prosiect Lleisiau o Lawr y Ffatri yn cael ei lansio yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful, ar 25 Mawrth 2015.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.