Panel: Galw am fwy o newyddiadurwyr Cymraeg

papurau newydd

Mae panel o newyddiadurwyr a golygyddion wedi trafod y galw am fwy o newyddiadurwyr Cymraeg.

Cyn-bennaeth HTV a BBC Cymru, Menna Richards, oedd yn cadeirio'r drafodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd nos Fercher wrth i gwrs gradd gyfun Cymraeg a newyddiaduraeth gael ei lansio.

Dywedodd Ms Richards fod y cymhwyster newydd yn ddefnyddiol ar gyfer y cyfryngau torfol.

"Mae'r bobl sydd wedi llunio'r cwrs wedi darganfod bod galw ymhlith nid yn unig y darlledwyr ond hefyd cwmnïau cyfathrebu a chyhoeddusrwydd am raddedigion â'r gallu i fod yn newyddiadurwyr profiadol ac i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Felly mae'n ymddangos fod galw mawr (am y cymhwyster)."

'Dadansoddi'

Yn ateb cwestiynau myfyrwyr, newyddiadurwyr a staff y brifysgol roedd golygydd gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth, golygydd BBC Radio Cymru, Betsan Powys, is-olygydd Y Byd ar Bedwar, Sian Morgan Lloyd, a golygydd materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick.

Wrth ymateb i gwestiwn am berthnasedd ffigurau gwrando wrth fesur llwyddiant rhaglenni Cymraeg, dwedodd Betsan Powys fod rhaid "dadansoddi" ac nid "anwybyddu" data am y rhai oedd yn gwrando, a gweithio i ddenu nôl cynulleidfa.

Image caption Dywedodd Menna Richards fod y cymhwyster newydd yn ddefnyddiol.

Dywedodd Sian Morgan Lloyd fod rhaid ystyried ffyrdd eraill o fesur bodlonrwydd y gynulleidfa fel yr ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol a'r nifer oedd yn dewis recordio rhaglenni neu eu gwylio ar alw.

Pwnc arall gododd sawl gwaith oedd safonau iaith, gyda Vaughan Roderick yn dweud iddo sylweddoli gymaint roedd iaith newyddiaduraeth wedi newid i fod yn debycach i'r iaith lafar. Fe awgrymodd nad oedd hynny'n beth drwg.

Roedd Dylan Iorwerth yn cyfeirio at newidiadau iaith dros y degawdau ac fe rybuddiodd fod "rhaid bod yn fwy goddefgar ynglŷn â pha fath o iaith rydan ni'n defnyddio".

Diffyg hyder

Cytunodd y panel fod diffyg hyder wedi rhwystro nifer fawr o newyddiadurwr talentog rhag gweithio yn Gymraeg gan iddyn nhw deimlo nad oedd safon eu hiaith yn cyrraedd y nod.

Ysgol y Gymraeg a'r Ysgol Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n gyfrifol am y radd newydd, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y radd yn cyfuno dadansoddiad a manylder academaidd â chyfleoedd i gael profiad ymarferol.