Achos marwolaeth atyniad chwarae

Bailey Lonsdale Image copyright BBC news grab
Image caption Bu farw Bailey Lonsdale ar Sul y Pasg yn yr atyniad chwarae yn 2011

Mae achos yn erbyn perchennog atyniad chwarae poblogaidd yng Ngwynedd wedi cael ei anfon i Lys y Goron bron bedair blynedd wedi i fachgen 11 oed farw yno.

Nid yw Stephen Bristow, perchennog 63 oed Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd ger Bethel yng Ngwynedd, wedi pledio i'r honiadau gan Gyngor Gwynedd, sy'n dweud bod ei esgeulustod wedi bod yn gyfrifol am y cwmni'n troseddu drwy beidio cynnal asesiad risg digonol ar wifren wibio'r Swamp Flyer.

Bu farw Bailey Lonsdale o Blackpool, ac fe gafodd y wifren ei chau wedi'r digwyddiad. Mae cwmni GreenWood Forest Park Ltd hefyd yn wynebu honiadau o dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Mae'r achos wedi ei ohirio tan 23 Mawrth yn Llys y Goron Caernarfon.