Eira yn achosi problemau ar yr A470

Icy roads
Image caption Fe wnaeth yr eira achosi problemau ar dir uchel (Llun llyfrgell)

Fe wnaeth eira gau rhan o'r A470 ym Mhowys fore Gwener ac mae tywydd garw hefyd yn achosi problemau ar dir uchel, 300 metr, mewn mannau eraill.

Dywed yr awdurdodau nad oedd modd defnyddio'r A470 rhwng Llangurig a Llanidloes am gyfnod oherwydd yr eria.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys mae'r eira hefyd wedi achosi problemau ar yr A4215 a'r A4067.

Ym Mannau Brycheiniog roedd yna amodau gyrru anodd ar yr A4059, Bwlch Penderyn.