Pryder am gosb tai Cymorth i Brynu

Tai

Mae pryder y gall pobl sy'n prynu tai drwy gynllun Cymorth i Brynu gael eu cosbi am wneud gwelliannau i'w cartrefi.

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths, yn gofyn am eglurder ar gynllun benthyciadau'r llywodraeth.

Yr honiad yw bod pobl sy'n berchen tai yn gorfod ad-dalu mwy o arian na'r disgwyl oherwydd dryswch am y rheolau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi canllawiau clir i gwsmeriaid.

'Treth'

Mae Cymorth i Brynu yn galluogi i bobl fenthyg canran o'r arian sydd ei angen i brynu cartref newydd gan y llywodraeth, ac yna ad-dalu'r un canran o werth y tŷ yn y dyfodol.

Cafodd y pryderon eu codi gan un prynwr ddywedodd ei fod yn ansicr ynglŷn â goblygiadau rhoi llawr newydd yn ei gartref newydd.

Er bod newidiadau mawr fel ychwanegu tŷ gwydr wedi eu gwahardd i dai gafodd eu prynu gyda Cymorth i Brynu, dywedodd Martin Fidler Jones o Bontypridd ei fod wedi gorfod gosod llawr newydd gan mai ond concrid oedd yna.

Ysgrifennodd at sawl AC oherwydd ei fod yn poeni y byddai'n cynyddu gwerth ei dŷ yn sylweddol drwy osod lloriau.

Fe wnaeth Mr Jones fenthyg £37,000 drwy gynllun Cymorth i Brynu ym mis Hydref 2014 i dalu am ei dŷ sydd werth £185,000.

Dywedodd nad oedd yn ymwybodol y byddai'n rhaid iddo dalu "treth" er mwyn gwneud newidiadau.

"Dwi'n meddwl y bydd nifer fawr o deuluoedd fydd yn cael biliau sylweddol o hyn heb gytuno i hynny yn y lle cyntaf", meddai.

'Amddiffyn cwsmeriaid'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw rwystr i atal perchnogion tai rhag gwneud newidiadau bach "i wneud eu tai yn fwy cyfforddus".

"Nid yw gwelliannau sylweddol yn cael eu caniatáu dan Cymorth i Brynu er mwyn amddiffyn cwsmeriaid rhag gwneud buddsoddiadau fyddai'n cynyddu gwerth eu cartrefi, ac felly yn cynyddu eu dyled i Lywodraeth Cymru."

Cafodd cynllun Cymorth i Brynu ei lansio yng Nghymru ym mis Ionawr 2014, ac mae wedi helpu 1,200 o bobl i brynu eu cartrefi.

Mae mwy i'w weld ar Sunday Politics Wales sy'n cael ei ddarlledu ar BBC One Wales am 11.00, dydd Sul, 15Mawrth.

Straeon perthnasol