Dathlu Diwrnod Pi Cymru

William Jones o Lanfellech
Image caption William Jones o Lanfellech, wnaeth ddefnyddio'r llythyren Roegaidd π neu pi, am y tro cyntaf yn 1706 i gynrychioli'r cysonyn mathemategol

Mae 14 Mawrth wedi cael ei ddynodi fel Diwrnod Pi Cymru.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd pobl o bob oed yn croesawu'r digwyddiad drwy gael hwyl gyda mathemateg ac anrhydeddu'r Cymro a roddodd pi i'r byd.

Mae'r Americanwyr wedi bod yn dathlu Diwrnod Pi Cenedlaethol ers 1988 ac mae gwledydd eraill wedi eu dilyn ers hynny, gan gydnabod y rôl ganolog mae pi wedi chwarae mewn peirianneg a thechnoleg.

Ond eleni am y tro cyntaf, bydd Cymru yn ceisio hawlio'r dydd er mwyn cofio am William Jones o Ynys Môn, wnaeth ddefnyddio'r llythyren Roegaidd π neu pi am y tro cyntaf yn 1706 i gynrychioli'r cysonyn mathemategol sy'n ein galluogi i fesur cylchedd ac arwynebedd cylchoedd.

Mae pi yn ddegolyn di-ddiwedd a ni all hyd yn oed y cyfrifiaduron fwyaf pwerus ei gyfrifo'n union, ond am nifer o flynyddoedd mae pobl wedi mwynhau ceisio dysgu cymaint ohono â phosib ar gof.

'Cydnabod rôl Cymru'

Syniad y cyn-athro prifysgol o ogledd Cymru, Gareth Ffowc Roberts, yw Diwrnod Pi Cymru, ac mae'r digwyddiad wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru.

Tri digid cyntaf pi yw 3.14, sydd yn y calendar Americanaidd, yn cynrychioli 14 Mawrth. Ond mae eleni'n flwyddyn arbennig oherwydd mai dau ddigid nesaf pi yw 15, sef 3.1415, gan gynrychioli 14 Mawrth 2015.

Bydd amseroedd yn ystod y dydd 9:26 a 53 eiliad, yn cyfateb i 10 digid cyntaf pi, sel 3.141592653.

Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi annog plant, athrawon a rhieni i gymryd rhan yn nathliadau'r diwrnod mawr: "Mae Diwrnod Pi Cymru yn gyfle i bobl o bob oed ddathlu beth mae pi wedi'i wneud i'r byd a chydnabod rôl allweddol Cymru wrth ddatblygu'r syniad.

"Mae dathlu pi yn gyfle i ddathlu mathemateg ac annog pobl i fwynhau, a defnyddio, mathemateg."

Image caption Gareth Ffowc Roberts a rhai o blant pentref LlanfairPAIgwyngyll yn dathlu diwrnod Pi