Cymru 23-16 Iwerddon

Leigh Halfpenny Image copyright Reuters

Aeth Cymru ar y blaen wedi dim ond dau funud, diolch i gic gosb lwyddiannus gan Leigh Halfpenny.

O fewn 15 munud arall roedd Halfpenny wedi ychwanegu naw phwynt arall i gyfanswm y Cymry, gyda thair cic gosb.

Cafodd Johnny Sexton gyfle i sgorio i'r ymwelwyr gyda chic gosb wedi 14 munud, ond methodd, cyn sgorio gydag ail ymgais ar ôl 17 munud o chwarae.

Aeth dechrau addawol Cymru o chwith ar ôl 27 munud wrth i'r capten, Sam Warburton, gael ei anfon i'r gell gosb, ac ychwanegodd Sexton dri phwynt arall i gyfanswm y Gwyddelod.

Llai na 10 munud cyn diwedd yr hanner sgoriodd Dan Biggar gôl adlam, cyn i Sexton lwyddo gyda chic gosb arall, gan olygu sgôr o 15-9 ar yr egwyl.

Ar gychwyn yr ail hanner cafwyd cyfnod maith o bwysau aruthrol gan y Gwyddelod, ond ni lwyddodd yr ymwelwyr i droi'r pwysau hwnnw'n bwyntiau.

Scott Williams sgoriodd gais cyntaf y gêm, wedi 61 munud, ond methodd Halfpenny gyda'r trosiad.

Funudau'n ddiweddarach roedd Iwerddon wedi derbyn cais cosb, gyda Sexton yn llwyddo gyda'r trosiad, i leihau mantais y tîm cartref.

Bum munud cyn diwedd y gêm ychwanegodd Halfpenny dri phwynt arall i gyfanswm y Cymry.