Brentford 1-2 Caerdydd

Pêl-droed

Brentford sgoriodd gyntaf, wrth i Andre Gray ganfod cefn y rhwyd wedi 28 munud.

Yn gynnar yn yr ail hanner sgoriodd Federico Macheda i Gaerdydd gan ddod â'r gêm yn gyfartal.

Chwarter awr yn ddiweddarach roedd Alex Revell wedi ychwanegu ail gôl at gyfanswm yr ymwelwyr.

Ond derbyniodd Kadeem Harris gerdyn coch ar ôl 78 munud, cyn i Kiko Macheda dderbyn ail gerdyn melyn, gan olygu bod yn rhaid i naw dyn Caerdydd weithio'n galed i amddiffyn eu mantais.