Abertawe 0-1 Lerpwl

Abertawe v Lerpwl Image copyright AFP

Methodd Abertawe y cyfle i godi i'r wythfed safle yn yr Uwchgynghrair nos Lun wrth iddynt gael eu trechu o 0-1 gan Lerpwl yn Stadiwm Liberty.

Abertawe oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf, ond aeth cyfleodd da Bafetimbi Gomis, Gylfi Sigurdsson a Jonjo Shelvey i wastraff.

Gôl lwcus Jordan Henderson yn yr ail hanner oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Wrth i amddiffynnwr Abertawe, Jordi Amat, geisio clirio'r o bas lac Daniel Sturridge, tarodd y bêl yn erbyn Henderson ac i mewn i'r rhwyd.

Er y canlyniad, roedd nifer o bethau cadarnhaol i'r tîm cartref, fel gweld Gomis yn chwarae am y tro cyntaf ers iddo lewygu ar y cae yn erbyn Tottenham yn gynharach yn y mis, a thorf o 20,828 - record ar gyfer Abertawe yn y stadiwm.