Damwain A470: Cyhoeddi angladdau tri o bobl ifanc

Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Corey Price
Image caption Bu farw Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Corey Price yn y ddamwain ar yr A470 ger Aberhonddu

Mae angladdau tri o bobl ifanc gafodd eu lladd yn y ddamwain ar yr A470 ger Aberhonddu wedi cael eu cyhoeddi.

Bu farw Alesha O'Connor, ei chariad Rhodri Miller a'u ffrind Corey Price, oedd oll yn 17 oed, yn y ddamwain ger y Storey Arms ar 6 Mawrth.

Cafodd Margaret Elizabeth Challis, 66 oed, ei lladd yn y ddamwain yn ogystal.

Fe fydd angladd Alesha yn cael ei gynnal yng Nghapel St Helen's yn y Barri ar ddydd Gwener, 20 Mawrth, am hanner dydd.

Bydd angladd Rhodri ar ddydd Sadwrn, 21 Mawrth yng Nghapel St Cadoc's yn Nhregatwg, tra bydd angladd Corey yn cael ei gynnal am 12:30yp yng Nghapel St Mary yn y Barri ddydd Mercher, 25 Mawrth.

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio wythnos diwethaf wedi marwolaethau'r pedwar.

Mae saith o ddynion ifanc - fu'n cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o yrru yn beryglus - wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ogystal.