R. Alun Evans yw Llywydd Eisteddfod 2015 ym Meifod

R. Alun Evans Image copyright Aled Llywelyn/Athena Pictures

R. Alun Evans fydd Llywydd yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni. Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol mewn datganiad ddydd Mawrth y bydd yn annerch cynulleidfa'r pafiliwn o'r llwyfan yn ystod wythnos y Brifwyl, sydd yn cael ei chynnal ym Meifod o 1-8 Awst.

Cafodd R. Alun Evans ei fagu yn Llanbrynmair gan dderbyn ei addysg yn Nyffryn Dyfi, cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Fe'i ordeiniwyd yn weinidog yn Seion Llandysul, cyn troi at ddarlledu ac ymuno gydag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964. Yn ystod gyrfa amrywiol gyda'r BBC, bu'n cyflwyno'r rhaglen gylchgrawn ddyddiol Heddiw o 1969-1979, ac yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn sylwebu ar seremonïau'r Eisteddfod ac yn sylwebydd pêl-droed cyntaf y gorfforaeth yn y Gymraeg.

Ar ôl ymddeol yn 1996, bu'n astudio am radd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac enillodd ei radd PhD am ei waith ar 'Dechrau a datblygu darlledu yng Ngogledd Cymru' yn 1999.

Cyngor yr Eisteddfod

Bu'n aelod o Gyngor yr Eisteddfod ers canol y saithdegau, ac yn Gadeirydd ar y corff hwnnw o 1999-2001, pan gafodd ei ethol yn Llywydd y Llys o 2002-2005. Fo oedd Cadeirydd cyntaf Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, ac yn 2007, fe'i anrhydeddwyd yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar ôl ymddeol o fyd darlledu, dychwelodd i'r weinidogaeth, a bu'n gwasanaethu gyda'r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod y Garth nes ei ymddeoliad ddiwedd 2014. Dr Evans yw Llywydd cyfredol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Mae R. Alun Evans yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y gwyddonydd, yr Athro Syr John Meurig Thomas, y barnwr Nic Parry, cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a'r cyfarwyddwr theatr a'r actor, Daniel Evans.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.