OFCOM yn ymchwilio i iaith anweddus ar Made in Cardiff

Made in Cardiff Image copyright Made in cardiff
Image caption Cafodd Made in Cardiff ei lansio ym mis Hydref 2014

Mae OFCOM, y corff sydd yn rheoleiddio darlledu, wedi cadarnhau ei fod yn cynnal ymchwiliad ar ôl i orsaf deledu leol Made in Cardiff ddarlledu iaith anweddus cyn y trothwy o 21:00.

Cafodd y rhaglen, Brits Behind Bars, ei darlledu ar fore 8 Rhagfyr 2014. Roedd y rhaglen wedi ei darlledu'n wreiddiol y noson flaenorol, wedi'r trothwy darlledu.

Mae Made in Cardiff yn rhan o grŵp o orsafoedd teledu lleol Made TV.

Cafodd chwaer-orsaf Made in Cardiff, Made in Leeds, ei dyfarnu o fod yn euog o dorri rheolau OFCOM yn gynharach yr wythnos hon pan gafodd iaith anweddus ei darlledu cyn y trothwy, a hynny ar noson lansio'r orsaf. Cafodd y camgymeriad ei ail-adrodd yn ddiweddarach ar yr orsaf honno.

Mae rhaglen Brits Behind Bars yn un o nifer o raglenni sydd yn cael eu dangos ar Made in Cardiff, ac er nad yw'r rhaglenni hyn wedi cael eu cynhyrchu gan Made in Cardiff, maen nhw'n cael eu prynu gan gwmnïau cynhyrchu er mwyn llenwi arlwy'r sianel.

Nid oedd Made in Cardiff am wneud sylw.