Rhys Webb yn arwyddo cytundeb deuol

Rhys Webb

Mewnwr Cymru, Rhys Webb yw'r diweddaraf i arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch.

Webb, sy'n 26, yw'r wythfed chwaraewr i arwyddo cytundeb o'r fath gyda'r Undeb.

Capten Cymru Sam Warburton oedd y cyntaf i arwyddo, cyn i Dan Lydiate, Jake Ball, Samson Lee, Rhodri Jones, Tyler Morgan a Hallam Amos wneud hefyd.

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, bod y mewnwr wedi "sefydlu ei hun fel mewnwr rhyngwladol" a'i fod yn "gwbl haeddu cytundeb deuol cenedlaethol".

Dywedodd Webb: "Dwi'n mwynhau fy rygbi gyda'r Gweilch a Chymru ac mae hyn yn galluogi i mi adeiladu ar hynny.

"Nawr mae'r dyfodol wedi ei sicrhau, galla'i ganolbwyntio ar wella fy rygbi."

Straeon perthnasol