Tour of Britain 2015 i ddechrau ym Môn

Tour of Britain Image copyright Sweetspot
Image caption Cystadleuwyr yn beicio drwy'r Drenewydd yn ystod Tour of Britain 2014

Mae Ynys Môn wedi cael ei ddewis fel y lleoliad ar gyfer cam agoriadol Tour of Britain 2015 ar 6 Medi.

Bydd beicwyr gorau'r byd yn cwblhau'r cymal o Fiwmares i Wrecsam am y tro cyntaf yn hanes diweddar y ras.

Fe fydd y daith yn gorffen yn Llundain ar 13 Medi wedi cymalau yn yr Alban, a gwahanol ardaloedd yn Lloegr.

Mae'r digwyddiad yn aml yn denu enwogion y gamp, gan gynnwys cyn-bencampwr ras ffordd y byd, Mark Cavendish.

Mae Taith Prydain yn cael ei ystyried fel prif ddigwyddiad beicio ffordd Prydain.

Mae'n rhoi cyfle i gefnogwyr y gamp weld timau a beicwyr gorau'r byd yn cystadlu ar eu stepen drws.

Dywedodd un cynghorydd o Ynys Môn, Aled Morris Jones fod hyn yn "gamp enfawr i'r ynys".

Dywedodd: "Bydd y Tour of Britain yn rhoi cyfle i arddangos Ynys Môn a phob peth ganddi i'w gynnig i ymwelwyr a chynulleidfa fyd-eang."

Image copyright Sweetspot
Image caption Mae Mark Cavendish wedi cymryd rhan yn y ras yn y gorffenol.