Canghellor: 'Trafodaethau' ar lagŵn Bae Abertawe

George Osborne
Image caption Hon fydd cyllideb olaf George Osborne cyn yr etholiad cyffredinol

Mae'r BBC yn deall y bydd Llywodraeth Prydain yn dechrau ar drafodaethau ffurfiol ar y posibilrwydd o greu lagŵn enfawr i gynhyrchu ynni ym Mae Abertawe.

Y gred yw y bydd George Osborne yn cynnwys datganiad am y cynlluniau wrth gyhoeddi'r gyllideb ddydd Mercher.

Hon fydd chweched gyllideb y Canghellor a'r olaf cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Mae Tidal Lagoon Power yn aros i glywed os caiff eu cynllun ar gyfer lagŵn sêl bendith yr Arolygiaeth Gynllunio.

Cymorthdaliadau

Petai caniatâd yn cael ei roi fe fyddai'r lagŵn yn costio £1bn ac yn cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 155,000 o gartrefi am 120 o flynyddoedd meddai'r cwmni.

Image copyright Tidal Lagoon Swansea Bay Ltd
Image caption Dyluniad artist o'r lagŵn llanw posib ym Mae Abertawe

Mae dyfalu y bydd Mr Osborne yn cyhoeddi y bydd y cwmni yn cael cynnig i drafod y posibiliadau am wahanol gymorthdaliadau ar gyfer y prosiect.

Fe allai hynny gynnwys cytundeb ynglŷn â'r pris fydd yn cael ei dalu am yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu.

Dadansoddiad Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylchedd

Fe allai morlyn Bae Abertawe fod y cyntaf o'i fath. Arwahan i fod yn gynllun arloesol, byddai egni o lanw a thrai'r mor ddwywaith y dydd, yn golygu ynni glannach na glo, nwy ac olew.

Gallai hefyd arwain at swyddi newydd, yn enwedig safle penodol yn ne Cymru i adeiladu tyrbinau fyddai'n cael eu rhoi o dan y mor i droi pwer y mor yn drydan yn ein cartrefi a safleodd gwaith.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Prydain yn arwyddocaol, ac mae cyhoeddiad y Canghellor yn debygol o ddweud y bydd trafodaethau swyddogol yn dechrau gyda chwmni Tidal Lagoon Power ar y pris y mae'r cwmni yn ei ofyn am gynhyrchu ynni o'r morlynnau llanw newydd.

Ar gyfer Abetawe, mae'r cwmni yn hawlio £168 am bob awr megawat o ynni fyddai'n cael ei greu, am 35 mlynedd cynta y prosiect.

Mae hynny'n llawer uwch na faint gytunwyd i dalu cwmni EDF am ynni niwclear o Atomfa Hinckley. Y pris am ynni hynny ydy £92.50, ond mae dadlau o hyd bod y cymhorthdal yn gyfystyr a chymorth i'r diwydiant ynni.

Image copyright Tidal Lgoon Power
Image caption Darlun artist o sut all y cynllun edrych yn y dyfodol

Dechrau'r mis fe gyhoeddodd Tidal Lagoon Power, o sylwi y bydd llawer yn asesu'r pris am gynhyrchu trydan yna yn uchel, y byddai cyfres o forlynnau ynni mwy yn cael eu hadeiladu ger Caerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn - a hynny am gymhorthdal o tua £90-£95 am bob awr o ynni.

Gyda chyfle i sicrhau hyd at 8% o drydan Prydain yn y dyfodol, am hyd at 120 o flynyddoedd, mae'r datblygwyr yn honni bod hyn yn bris gwerth ei dalu.

Hefyd medden nhw, fe fyddai miloedd o swyddi cynhyrchu, adeiladu a gosod cydrannau'r turbinnau tanfor yn dod i Gymru a rhannau o Loegr.

Mae rhai gwleidyddion o lywodraethau Prydain a Chymru yn ogystal wedi son eisioes am y bri fyddai'n dod i Gymru drwy ddatblygu ynni carbon isel o'r mor.

Yn y cyfamser mae Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt wedi dweud y dylai'r Canghellor wneud yr un ymrwymiad ar gyfer cyllid i Gymru fel ei gydweithiwr yn y Trysorlys, Danny Alexander,

Fe wnaeth Ms Hutt ysgrifennu at Mr Osborne cyn ei araith fawr yn gofyn iddo egluro ei safbwynt ar y mater.

Yn ei llythyr mae Ms Hutt yn datgan fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Mr Alexander eisoes wedi galw adolygiad o sut mae Llywodraeth Cymru yn cael ei ariannu.

Roedd hyn, meddai, yn dilyn addewid lleiafswm ariannu gan David Cameron a Nick Clegg.

Bydd Mr Osborne yn cyhoeddi ei gyllideb am tua 12:30.