Y Gyllideb: Beth sydd ar y gweill i Gymru?

George Osborne Image copyright Reuters
Image caption Hon yw cyllideb olaf Mr Osborne cyn yr etholiad

Mae'r Canghellor George Osborne wedi cadarnhau bod trafodaethau ffurfiol wedi dechrau ar godi lagŵn i gynhyrchu ynni gwyrdd ym Mae Abertawe.

Gwnaeth y cyhoeddiad yn ystod ei araith gyllideb olaf cyn yr etholiad cyffredinol.

Yn ogystal, daeth cyhoeddiad y bydd tollau Pont Hafren yn gostwng o £6.50 i £5.40 erbyn 2018.

Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar gynllun dinas Caerdydd, ac ychwanegodd y canghellor y bydd cyllid newydd ar gael ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Dyma rhai o'r pwyntiau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â Chymru:

  • Lwfans treth personol yn codi i £10,800 yn 2016-17 a £11,000 yn 2017/18;
  • Diddymu'r cynnydd arfaethedig yn y dreth ar danwydd ceir ym mis Medi;
  • Diddymu Treth Ar Werth ar y gost o groesi pontydd Hafren, sy'n lleihau'r gost i lorïau bach a bysys i groesi;
  • Bydd pobl sydd ag ISA yn medru buddsoddi i'w cyfrifon heb iddo gyfri at eu mwyafswm i'r flwyddyn;
  • Ffermwyr i elwa gan y byddan nhw'n cael cyfnod o 5 mlynedd i lunio cyfartaledd incwm at bwrpas treth yn hytrach na dwy flynedd;
  • Llywodraeth y DU i ddechrau trafodaethau am lagwn Bae Abertawe a Chynllun Dinesig Caerdydd.

Ymateb

Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Jane Hutt y byddai'r gyllideb yn arwain at £18m ychwanegol yn dod i Gymru yn 2015-16 o dan fformiwla Barnett, ond byddai toriadau ehangach y Trysorlys yn gwmwl ar y buddsoddiad.

"Mae cynllun toriadau Llywodraeth y DU yn ystod cyfnod y llywodraeth yma wedi cael effaith difrifol ar Gymru ac mae'n mynd i barhau gyda £30bn yn ychwanegol mewn toriadau wedi eu clustnodi hyd at 2017-18", meddai.

Dywedodd Jenny Willott, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ganol Caerdydd: "Mae'r gyllideb hon yn dangos beth mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gallu ei wireddu fel rhan o'r llywodraeth: creu cyfleoedd i bawb drwy adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach."

Ond roedd Jonathan Edwards A.S. o Blaid Cymru yn feirniadol o "roddion cyn-etholiadol oedd wedi eu cynllunio i apelio at y bleidlais graidd Dorïaidd", oedd meddai "yn cuddio gwirionedd y sefyllfa, sef y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus, yn ystod cyfnod y llywodraeth nesaf yn mynd i ddioddef toriadau gwerth biliynau, a hyn wedi ei gefnogi gan y Blaid Lafur".

Dywedodd llefarydd economaidd UKIP, Patrick O'Flynn, bod y Gyllideb yn cadarnhau methiant y glymblaid i ddileu'r diffyg ariannol dros gyfnod y Senedd fel y dywedodd y buasai'n ei wneud.

Dadansoddiad Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol

Dim rhoddion a dim gimics, dyna ddywedodd y canghellor cyn heddiw, gan bod arian yn dal i fod yn brin, ond gyda dim ond 50 diwrnod i fynd tan yr etholiad cyffredinol, roedd hwn wastad yn mynd i fod yn gyllideb gwleidyddol iawn.

Felly roedd yna bolisiau i roi mwy o arian yn ôl ym mhocedi'r etholwyr - ceiniog oddi ar peint o gwrw, cynydd pellach yn nhrothwy treth incwm a newyddion da i deithwyr sy'n defnyddio Pont Hafren.

Cyfle euraidd iddo hefyd ymarfer ei negeseuon ar gyfer yr ymgyrch a gosod eu tôn ar gyfer yr etholiad - bod eu polisiau economaidd wedi gweithio dros y bum mlynedd ddiwethaf - gyda'r economi yn ffynnu, a swyddi ar gynnydd.

Ac er bod mwy o doriadau eto i ddod yn y blynyddoedd neaf, roedd yna neges o ddyddiau da eto i ddod - gyda'r cyfnod o gynni yn dod i ben ynghynt na'r disgwyl.

Lagŵn Bae Abertawe

Image copyright Tidal Lagoon Swansea Bay Ltd
Image caption Dyluniad artist o'r lagŵn llanw posib ym Mae Abertawe

Mae Tidal Lagoon Power yn aros i glywed os caiff eu cynllun ar gyfer lagŵn sêl bendith yr Arolygiaeth Gynllunio.

Petai caniatâd yn cael ei roi fe fyddai'r lagŵn yn costio £1bn ac yn cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 155,000 o gartrefi am 120 o flynyddoedd meddai'r cwmni.

Bydd y trafodaethau yn ymwneud a chymorthdaliadau ar gyfer cynhyrchu trydan.

Dadansoddiad Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylchedd

Fe allai morlyn Bae Abertawe fod y cyntaf o'i fath. Arwahan i fod yn gynllun arloesol, byddai egni o lanw a thrai'r mor ddwywaith y dydd, yn golygu ynni glannach na glo, nwy ac olew.

Gallai hefyd arwain at swyddi newydd, yn enwedig safle penodol yn ne Cymru i adeiladu tyrbinau fyddai'n cael eu rhoi o dan y mor i droi pwer y mor yn drydan yn ein cartrefi a safleodd gwaith.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Prydain yn arwyddocaol, ac mae cyhoeddiad y Canghellor yn golygu y bydd trafodaethau swyddogol yn dechrau gyda chwmni Tidal Lagoon Power ar y pris y mae'r cwmni yn ei ofyn am gynhyrchu ynni o'r morlynnau llanw newydd.

Ar gyfer Abetawe, mae'r cwmni yn hawlio £168 am bob awr megawat o ynni fyddai'n cael ei greu, am 35 mlynedd cynta y prosiect.

Mae hynny'n llawer uwch na faint gytunwyd i dalu cwmni EDF am ynni niwclear o Atomfa Hinckley. Y pris am ynni hynny ydy £92.50, ond mae dadlau o hyd bod y cymhorthdal yn gyfystyr a chymorth i'r diwydiant ynni.