Sam Vokes yn ôl i Gymru i wynebu Israel

Sam Vokes Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r ymosodwr Sam Vokes yn dychwelyd i garfan Cymru i wynebu Israel yn rownd ragbrofol Euro 2016.

Mae Simon Church hefyd yn y garfan, ond nid yw'r amddiffynnwr James Chester wedi ei gynnwys oherwydd anaf i'w ysgwydd.

Mae Chester wedi chwarae pob un o gemau cymhwyso Cymru hyd yn hyn.

Bydd tîm Chris Coleman yn wynebu Israel yn Haifa ar 28 Mawrth.

Mae Coleman heb dri chwaraewr arall i'r gem; Paul Dummett, Geoirge Williams ac Emyr Huws.

Israel sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd, wedi iddyn nhw ennill pob un o'i tair gem hyd yn hyn.

Mae Cymru yn yr ail safle, ar ôl dwy fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal.

Carfan Cymru v. Israel, Haifa, 28 Mawrth:

Gôl-geidwaid: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Daniel Ward (Lerpwl);

Amddiffynwyr: Ashley Williams (Abertawe), James Collins (West Ham United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Sam Ricketts (Wolverhampton Wanderers), Ashley Richards (Abertawe - ar fenthyg gyda Fulham), Adam Henley (Blackburn Rovers);

Canol-cae: Joe Allen (Lerpwl), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Shaun MacDonald (Bournemouth);

Ymosodwyr: David Cotterill (Birmingham City), Hal Robson-Kanu (Reading), Tom Lawrence (Caerlŷr), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton Athletic), Sam Vokes (Burnley).