'Morâl isel' ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ôl darlithydd

Prifysgol Aberystwyth

Mae morâl staff prifysgol Aberystwyth yn isel iawn ar hyn o bryd oherwydd y ffordd mae'r penaethiaid yn rhedeg y sefydliad. Dyna'r hyn y mae darlithydd profiadol wedi dweud mewn cyfweliad gyda rhaglen Manylu ar Radio Cymru.

Mae'r Dr Rhodri Llwyd Morgan - dirprwy is-ganghellor y brifysgol - yn dweud nad oes problem gyda morâl staff a bod penaethiaid y brifysgol yn buddsoddi yn y sefydliad er mwyn denu mwy o fyfyrwyr a sicrhau bod safle'r brifysgol mewn tablau cynghrair yn codi.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Prifysgol Aberystwyth wedi cwympo yn y tablau ac mae nifer y myfyrwyr wedi gostwng yn sylweddol. Bedair blynedd yn ôl roedd hi ymhlith yr hanner cant uchaf.

Tablau

Ers hynny, mae'i safle wedi cwympo i rif wythdeg saith yn ôl y Complete University Guide. Ond yn ôl Syr Deian Hopcyn, cyn-ddarlithydd yn Aberystwyth a chyn-bennaeth prifysgol yn Llundain, dydi hi ddim yn iawn rhoi gormod o bwyslais ar y safle yn y tablau.

Dros yr un cyfnod, mae nifer y myfyrwyr wedi cwympo hefyd, ac er bod y brifysgol yn buddsoddi £100m mewn gwelliannau i'r campws, mae un darlithydd yn dweud fod lefel morâl staff yn isel iawn.

Mae e wedi gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ers dros 20 mlynedd ac fe wnaeth e gyfweliad gyda Manylu ar yr amod ei fod yn aros yn ddienw.

Dywedodd y darlithydd: "Mae lefel morâl yn isel iawn ar hyn o bryd. Dw i ddim yn credu bod yr arddull a fabwysiadwyd gan reolwyr y brifysgol yn helpu, ynghŷd â'r anfodlonrwydd i gydnabod y problemau enfawr mae'r brifysgol yn eu wynebu ar hyn o bryd."

Ers 2012 - y flwyddyn pan gafodd ffioedd dysgu uwch eu cyflwyno - mae nifer y ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr i Aberystwyth wedi gostwng yn sylweddol.

Ystadegau UCAS

Yn ol ystadegau UCAS yn 2011 roedd 12,475 cais i brifysgol Aberystwyth - erbyn 2014 roedd y nifer wedi gostwng i 8,425. Roedd y ffigwr yn 2011 yn uchafbwynt i Aberystwyth, ac roedd disgwyl gostyngiad ar ôl hynny - ond yn wahanol i sefydliadau eraill mae nifer y ceisiadau i Aberystwyth wedi parhau i gwympo.

Yn ôl y darlithydd, mae lleoliad Aberystwyth yn ffactor bwysig yn y cwymp, ond mae rhesymau eraill hefyd.

"Mae lleoliad y brifysgol yn gritical oherwydd mae'n dibynnu ar ddenu myfyrwyr o bell," meddai.

"Yn y fy marn i mae'r dulliau o reoli a fabwysiadwyd yno wedi arwain at lefelau isel o forale ymhlith y staff sydd - yn ei dro - wedi arwain ar ostyngiad sylweddol yng nghyfraddau bodlonrwydd myfyrwyr.

"Ac mae hyn wedi cael effaith negyddol ar recriwtio. Dwi ddim yn credu bod y ffioedd uchel y mae'r sefydliad yn eu codi - rhywbeth y gofynwyd amdano gan y brifysgol cofiwch - yn helpu'r sefyllfa chwaith.

"Mae llawer mwy o ddewis gan fyfyrwyr addysg uwch y dyddiau hyn ac maen nhw'n amlwg yn pleidleisio a'u traed."

Aroddiad recriwtio

Mae BBC Cymru wedi gweld adroddiad recriwtio gafodd ei gyflwyno i Senedd y brifysgol cyn y Nadolig sy'n awgrymu y gallai geisiadau fod 24% yn is eleni o gymharu â'r llynedd.

Ar ôl edrych ar yr ystadegau, dywedodd Ken Richards - economegydd sy'n arbenigo ar gyllid prifysgolion - fod y sefyllfa yn niweidiol yn ariannol i'r brifysgol.

Dywedodd Mr Richards: "Mae nifer y myfyrwyr yn bwysig iawn yn enwedig i le fel Aberystwyth sy'n denu myfyrwyr o dde Cymru a chanolbarth Lloegr os yw'r myfyrwyr yma yn gwrthod dod - mae'n mynd i gael effaith fawr ar le fel Aberystwyth.

"O gymharu gyda dwy neu dair blynedd yn ôl mae'r cwymp tua 50%, yn enwedig o gadarnleoedd y brifysgol... felly mae hyn yn sefyllfa difrifol iawn, iawn. Wrth gwrs dyw'r cwymp yn y derbyniadau ddim gymaint, oherwydd mae'r brifysgol yn mynd trwy'r system clirio, ac yn cael myfyrwyr trwy'r system clirio.

"Felly dyw'r cwymp yn y nifer sy'n ymaelodi ddim cymaint, ond mae'r ceisiadau i lawr, ac mae'n rhaid gofyn pam mae Aberystwyth wedi colli ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr sy'n ceisio am le mewn prifysgol."

Mae'r Dr Rhodri Llwyd Morgan yn dweud nad yw'r ystadegau gafodd eu cyflwyno i'r Senedd rai misoedd yn ôl yn adlewyrchu'r sefyllfa nawr.

"Dyw'r ffigyrau hynny ddim yn wir," meddai.

"Mae amrywiaethau o bwnc i bwnc, ac o adran i adran, mae rhai adrannau yn gweld cynnydd o ran niferoedd a rhai adrannau yn gweld ychydig yn llai.

"Ond oherwydd maint rhai o'r cyrsiau sy'n denu myfyrwyr mae amrywiaeth o safbwynt canrannau yn gallu ymddangos yn fawr iawn, er mai dim ond bach yw'r niferoedd."

Cynnydd mewn myfyrwyr

Mae Dr Rhodri Llwyd Morgan yn dweud fod y brifysgol yn obeithiol y bydd cynnydd yn nifer y myfyrwyr ym mis Medi.

Dywedodd wrth Manylu: "Ni wedi gweld tystiolaeth eleni, lle mae arwyddion i ni yn awgrymu y gwelwn ni gynnydd ym mis Medi eleni, oherwydd ry'n ni wedi gweld niferoedd uwch nac erioed o'r blaen yn mynychu ein diwrnodau ymweld, ac oherwydd natur Aberystwyth pan mae darpar-fyfyrwyr a'u teuluoedd yn ymweld â'r dref mae canran dda iawn iawn ohonyn nhw yn penderfynu ein cadarnhau ni fel dewis."

Ac mae'r dirprwy is-ganghellor yn gwadu fod problem gyda morâl staff: "Mae'n ddarlun cymysg - mae rhai adrannau falle yn teimlo'n fwy hyderus na'i gilydd ac ambell i unigolyn yn teimlo'n fwy hyderus na'i gilydd.

"Arwydd pendant i ni ein bod ni ar y trywydd iawn a bod morale yn dda yw bod cyfraddau salwch wedi bod yn gostwng ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac ry'n ni'n gwybod fod hynny'n ddangosydd pwysig iawn."

Mae'n dweud fod y brifysgol yn gweithio'n galed i recriwtio myfyrwyr ac yn buddsoddi yn y campws er mwyn gwella'u profiadau yn Aberystwyth.

Gwario miliynau

Mae miliynau o bunoedd wedi'u gwario ar wella cyfleusterau fel neuaddau darlithio, ac mae buddsoddiad o £45m mewn llety newydd moethus ar gyfer 1,000 o fyfyrwyr. Mae'r penaethiaid yn hyderus ynglŷn â'r dyfodol, yn ôl Rhodri Llwyd Morgan.

"Y'n ni'n edrych ar y dyfodol yn hyderus iawn," meddai.

"Y'n ni wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi £100m sydd, mewn prifysgol weddol fach, yn swm enfawr, ac ry'n ni'n gweld y buddsoddiad yna yn dechrau talu ffordd.

"Ry'n ni wedi buddsoddi yn y profiad myfyrwyr ac ry'n ni'n gwybod mai dyna'r ffordd i wella lefelau bodlonrwydd, gyda phethau oedd yn achosi anfodlonrwydd iddyn nhw fel amserlenni neu brydlondeb adborth mewn rhai adrannau.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen yn hyderus i'r dyfodol gan wybod fod y cynlluniau gyda ni mewn lle i sicrhau dyfodol llewyrchus yma."

Manylu, BBC Radio Cymru, dydd Iau am 12:30, ac ail-ddarllediad am 17:30 dydd Sul, 22 Mawrth.