Damwain yn ardal Felinheli

Damwain Felinheli Image copyright Sioned Webb
Image caption Dyma lun gan deithiwr ar yr A487 yn gynharach

Mae damwain wedi bod ar yr A487 ffordd osgoi'r Felinheli yng Ngwynedd brynhawn dydd Mercher.

Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw tua 15:35.

Roedd y gwasanaeth ambiwlans ar y safle, ac roedd ambiwlans awyr hefyd wedi'i alw, yn ogystal â'r gwasanaeth tân.

Roedd un car wedi troi ar ei ochr.

Roedd adroddiadau o broblemau traffig difrifol yn yr ardal wedi'r digwyddiad ond mae ffordd yr A487 bellach wedi ail-agor i'r ddau gyfeiriad.