Homburg Hat Mr Davies

Roedd gan S.O Davies, Aelod Seneddol Merthyr ffordd ryfedd iawn o gyfeirio at ei hun yn y trydydd person - rhywbeth yn debyg i'r ffordd yr oedd mam Wali Thomas yn siarad ar C'mon Midffîld.

Dyma oedd gan S.O i ddweud pan ofynnwyd iddo yn 1970 pam nad oedd yn cynnal syrjyris ar gyfer ei etholwyr.

"Bob dydd Sadwrn mae Mr S.O Davies yn cerdded ar hyd Stryd Fawr Merthyr yn ei Homburg hat. Os ydy etholwyr Merthyr yn dymuno siarad ag ef, gwylient am ei Homburg hat"

Dydw i ddim yn argymell strategaeth wleidyddol S.O i wleidyddion ein canrif ni ond roedd hi'n ddigon effeithiol iddo fe.

Amharodrwydd S.O i gynnal syrjyris oedd un o'r rhesymau a roddwyd gan y Blaid Lafur am beidio ei ail-enwebu fel ymgeisydd yn etholiad cyffredinol 1970. Safodd S.O ta beth gan gadw'r sedd yn ddigon handi. Trech het na phlaid.

Mae stori S.O yn brawf bod modd i ddeiliad poblogaidd nofio yn erbyn y llif gwleidyddol. Gobaith mawr y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad o'n blaenau yw bod gan y blaid ddeg ar hugain neu ddeugain o S.O's fydd yn ateb yr S.O.S ac yn llenwi bad achub i'r blaid.

I'r perwyl hwnnw mae'r blaid wedi arllwys bron y cyfan o'i hadnoddau i'r ychydig ddwsinau o seddi y maent yn credu ei bod yn bosib eu hennill. Dyw'r rhestr honno ddim hyd yn oed yn cynnwys pob sedd y mae'r blaid yn ei dal ar hyn o bryd. Ildiwyd y dydd heb godi cledd. Ar y llaw arall mae ambell i geiniog yn cael ei wario ar dir y gelyn, mae Maldwyn yn enghraifft o hynny.

Mae'r dacteg yn un gwbl synhwyrol. Mewn gwirionedd mae'n anodd meddwl unrhyw strategaeth gall arall - ond mae 'na broblem.

Dyma hi ar ffurf cwestiwn. Beth sy'n digwydd os ydy'r llif gwleidyddol mor gryf fel nad oes modd ynysu etholaethau a gwrthsefyll ei rym?

Ar hyn o bryd mae cyfartaledd yr arolygon barn yn awgrymu bod oddeutu 7% o'r rheiny sy'n bwriadu pleidleisio ar Fai'r 7fed yn ffafrio'r Democratiaid Rhyddfrydol ond wrth reswm dyw'r cyfan o'r rheiny ddim yn y seddi darged. Fe fydd rhai yn pleidleisio i'r blaid hyd yn oed yn y tiroedd mwyaf hesb.

Y cwestiwn mawr yw pa gyfran o'r saith y cant yna fydd yn bleidleisiau gwastraffus o safbwynt y blaid. Gallwn gael rhyw fath o syniad trwy edrych ar y pump is-etholiad seneddol a gynhaliwyd ers dechrau 2014.

Mae'r canran o bleidleisiau a dderbyniwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y rheiny yn amrywio rhwng 0.9% yn Rochester a Strood a 5.1% yn Heywood a Middelton. Union 3% oedd y gefnogaeth ar gyfartaledd. Rhyw 4% fyddai ar ôl yn y seddi targed felly pe bai'r patrwm yn dal.

Ydy hynny'n ddigon i sicrhau presenoldeb parchus i'r blaid yn y senedd nesaf? Yr ateb gorau i'r cwestiwn yna yw 'jyst abowt'! Fe fyddai'n rhaid i'r pleidleisiau fod yn yr union fannau cywir ac fe fyddai'n rhyfeddol o dyn ond mae'r peth yn bosib. Ond pe bai'r gefnogaeth yn gostwng ymhellach, hyd yn oed mymryn yn bellach, gallai'r blaid wynebu galanas etholiadol.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hoffi honni y gallai'r blaid wneud llawer iawn yn well nac mae'r arolygon cenedlaethol yn awgrymu. Mae hynny'n gyfan gwbl wir. Mae hi'r un mor wir i ddweud y gallai'r blaid wneud llawer iawn yn waeth nac mae'n disgwyl.

Daliwch ymlaen i'ch hetiau!