Dyn wedi marw ar ôl tân

Tân Heol Chappell Image copyright Matthew Horwood

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio ar ôl i ddyn oedrannus farw wedi tân yn Heol Chappell yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 20:00 nos Iau.

Cafodd dyn a dynes oedrannus eu hachub o'r tŷ a'u cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Fe gafodd y dyn ei drosglwyddo wedyn i Ysbyty Treforys ger Abertawe ble bu farw.