Gwobrwyo tair o ferched ifanc am ymyrryd mewn ymosodiad

Llys y Goron Yr Wyddgrug
Image caption Dywedodd y Barnwr Niclas Parry yn Llys y Goron Yr Wyddgrug y dylai'r merched gael £200 o wobr yr un

Mae tair merch 13 oed wnaeth ymyrryd pan welon nhw ddau ddyn yn ymosod ar rywun mewn afon wedi cael eu gwobrwyo gan farnwr llys y goron.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y merched wedi gweld dyn yn cael ei daro a'i gicio ger Afon Gwenfro yn Wrecsam ym mis Hydref y llynedd.

Roedden nhw wedi gweiddi ar yr ymosodwyr, wnaeth redeg i ffwrdd, a chadw'r dyn yn gynnes nes i'r ambiwlans gyrraedd.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry y dylai'r merched gael £200 o wobr yr un.

Cafodd yr ymosodwyr - Paul Loose, 24 oed o Danycoed, a Ryan Roberts, 18 o Danybryn - eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ond derbyniwyd eu heuog ble o glwyfo.

Cafodd Loose ei garcharu am 28 mis a derbyniodd Roberts 20 mis mewn carchar ieuenctid.