Cyfle Cymru i gipio'r gwpan yn y Chwe Gwlad

Warren Gatland Image copyright Huw Evans Agency

Bydd Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth fawr dros yr Eidal yn Rhufain yn ddiweddarach, ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015.

Mae Cymru yn y trydydd safle cyn y rownd olaf o gemau, ond byddai buddugoliaeth fawr dros yr Eidal yn rhoi siawns i ddynion Warren Gatland gipio'r gwpan.

Mae Warren Gatland wedi dweud bod Cymru dan anfantais o fod yn chwarae gêm gyntaf y dydd, ac mai Lloegr sydd yn y safle cryfaf, gan eu bod nhw'n chwarae olaf ddydd Sadwrn.

Ond ni fydd yn hawdd i'r Saeson os all Gymru sicrhau buddugoliaeth fawr yn Rhufain, yn ôl yr hyfforddwr.

"Ni fyddai'n yn hawdd os ydych chi [Lloegr] angen 15 neu 20 o bwyntiau ac yn gorfod curo Ffrainc ac maen nhw'n dîm anodd i'w curo," meddai Gatland.

"I ni mae o am wneud yn siŵr ein bod ni'n canolbwyntio ar ein hunain."

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Aaron Jarvis, Scott Baldwin a Rob Evans fydd yn dechrau yn rheng flaen Cymru

Ychwanegodd: "Ein ffocws yw ennill y gêm gyntaf ac yna adeiladu bwlch ac yna efallai gallwn ni chwarae rygbi da.

"Mae angen i ni gadw'r bêl yn ein dwylo yn debyg i'r ffordd y gwnaethon ni yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.

"Os ydyn ni'n creu cyfleoedd, yn eu gorffen nhw, a gobeithio y gallwn ni, yna mae'n rhoi ychydig o bwysau yn ôl ar Iwerddon a Lloegr am weddill y p'nawn."

Gwahaniaeth Pwyntiau

Mae Cymru wedi gwella ymhob gêm ers iddyn nhw golli yn erbyn Lloegr yng ngêm gyntaf y bencampwriaeth, fel y gwnaethon nhw yn 2013.

Aeth tîm Warren Gatland ymlaen i ennill y gystadleuaeth y flwyddyn honno, ond bydd angen buddugoliaeth fawr dros yr Eidal yn ddiweddarach os ydyn nhw am gael unrhyw siawns o ail-adrodd y gamp.

Tîm Gwahaniaeth Pwyntiau Gêm olaf
Lloegr +37 v. Ffrainc
Iwerddon +33 v. Yr Alban
Cymru +12 v. Yr Eidal

Bydd angen curo'r Eidal o 26 o bwyntiau i symud uwchben gwahaniaeth pwyntiau Lloegr, ac yna bydd rhaid aros am ganlyniadau'r gemau eraill.

Os all Cymru guro'r Eidal, ac os bydd Iwerddon a Lloegr yn methu ac ennill eu gemau nhw, yna Cymru fydd y pencampwyr.

Newidiadau

Image caption Bydd rhaid i'r Eidal groesawu Cymru i Rufain heb eu capten, Sergio Parisse

Mae Gatland wedi gwneud dau newid i'r tîm gurodd Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm y penwythnos diwethaf.

Mae Aaron Jarvis a Rob Evans yn cymryd llefydd Samson Lee a Gethin Jenkins yn y rheng flaen oherwydd anafiadau.

Ar y fainc, mae Rhys Gill, Ken Owens a Scott Andrews i mewn, ac mae mewnwr y Scarlets, Gareth Davies yn cymryd lle Mike Phillips.

Bydd Yr Eidal heb eu capten Sergio Parisse sydd wedi anafu ei droed, ond mae Martin Castrogiovanni a Mauro Bergamasco yn ôl yn y tîm.

Bydd Michele Rizzo yn ôl yn y rheng flaen yn lle Matias Aguero tra bod Kelly Haimona yn dychwelyd i safle'r maswr ar ôl methu'r golled yn erbyn Ffrainc.

Yr Eidal v. Cymru, Stadio Olimpico, Dydd Sadwrn Mawrth 21, 12:30:

Yr Eidal: McLean, Sarto, Morisi, Masi, Venditti, Haimona, Gori; Rizzo, Ghiraldini (c), Castrogiovanni, Biagi, Furno, Minto, Bergamasco, Vunisa.

Cymru: Halfpenny, North, J Davies, J Roberts, L Williams, Biggar, Webb; R Evans, Baldwin, Jarvis, Charteris, AW Jones, Lydiate, Warburton (C), Faletau.