Caerdydd 2-0 Birmingham

Eoin Doyle celebrates scoring for Cardiff City Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Eoin Doyle yn dalthu ar ol sgorio i Gaerdydd

Fe wnaeth Caerdydd sicrhau eu buddugoliaeth cartref gyntaf ers mis Ionawr drwy guro Birmingham 2-0.

Ar ôl hanner cyntaf digon diflas, fe aeth Caerdydd ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Eoin Doyle sgorio ei gol gyntaf i'r clwb.

Cic o'r smotyn gan Peter Whittingham wnaeth sicrhau'r tri phwynt ar ôl i Doyle gael ei lorio gan Jonathan Spector.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu wythnos dda i dîm y brifddinas, gyda gem gyfartal yn erbyn Bournemouth, a buddugoliaeth yn erbyn Brentford.