Gwasanaeth i gofio am Cameron Comey yng Nghaerfyrddin

Cameron Comey
Image caption Fe wnaeth Cameron Comey ddiflannu ar 17 Chwefror

Cafodd gwylnos ei chynnal yng Nghaerfyrddin nos Sul ar gyfer Cameron Comey.

Diflannodd y bachgen 11 oed ar ôl bod yn chwarae gyda'i frawd ger Afon Tywi ar 17 Chwefror.

Roedd y gwasanaeth nos Sul ar Bont King Morgan am 19:30 wedi ei drefnu gan eglwysi ac enwadau'r dref.

Cafodd gwylnos debyg ei chynnal bedair wythnos yn ôl yn dilyn ei ddiflaniad, gyda channoedd o bobl yn dangos eu cefnogaeth i deulu Cameron.

Yn ystod y wylnos cafodd rhuban glas ei roi ar y bont fel symbol o gefnogaeth y gymuned leol i'r teulu.

Image caption Cafodd rhuban glas ei osod ar y bont
Image caption Cafodd gwylnos ei chynnal nos Sul

Straeon perthnasol