Trydar homoffobig: Yr heddlu yn ymchwilio

Nigel Owens Image copyright AFP
Image caption Roedd Nigel Owens yn dyfarnu yn y gem rhwng Lloegr a Ffrainc

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i drydar homoffobig gael ei anfon at y dyfarnwr rygbi Nigel Owens.

Roedd Mr Owens yn dyfarnu yn y gêm rhwng Lloegr a Ffrainc yn Twickenham ddydd Sadwrn, gyda Lloegr yn fuddugol 55-35.

Dywedodd Heddlu De Cymru ar eu cyfrif Twitter eu bod nhw'n ymchwilio i gynnwys y trydar.

Dywedodd llefarydd fod y mater wedi ei anfon ymlaen i Heddlu Dyfed Powys.

Gwnaed cais i Heddlu Dyfed-Powys am sylw.