Ymddiheuro am drydariad homoffobig i Nigel Owens

Nigel Owens Image copyright AFP
Image caption Roedd Nigel Owens yn dyfarnu yn y gêm rhwng Lloegr a Ffrainc

Mae defnyddiwr Twitter wedi ymddiheuro wedi iddo anfon trydariad homoffobig at y dyfarnwr rygbi, Nigel Owens.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i gynnwys y trydariad yn dilyn nifer o gwynion gan y cyhoedd.

Mi wnaeth Edryd James drydar: "Ymddiheiraf o waelod calon... yn dilyn digwyddiadau ddoe. Aeth y gêm feddw allan o bob rheolaeth. Ni fwriadais unrhyw falais."

Yn ogystal anfonodd neges at Mr Owens yn uniongyrchol i ymddiheuro.

Yn gynharach mi wnaeth Mr Owens drydar: "Diolch am eich cefnogaeth. Yr enillydd y penwythnos yma oedd rygbi, y chwaraewyr, a'r gwir gefnogwyr."

Roedd Mr Owens yn dyfarnu yn y gêm rhwng Lloegr a Ffrainc yn Twickenham ddydd Sadwrn, gyda Lloegr yn fuddugol 55-35.

Image copyright Twitter

Straeon perthnasol