Gwrthdrawiad A470: Cynnal angladd mam-gu

Margaret Challis
Image caption 'Y plant o'dd ei bywyd hi,' meddai ei meibion Alan a Jason Webber

Mae angladd dynes fu farw yn y gwrthdrawiad laddodd pedwar o bobl ar yr A470 ger Aberhonddu wedi cael ei gynnal ddydd Mawrth.

Bu farw Margaret Challis, 66 oed o Ferthyr Tudful, wrth iddi ddychwelyd adref ar ôl noson allan.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yng Nghapel Georgetown, Merthyr Tudful.

Mae'r gwasanaeth yn dilyn angladdau Alesha O'Connor a Rhodri Miller - fu farw yn y ddamwain hefyd - gafodd eu cynnal yn yr wythnos ddiwethaf.

Bydd angladd Corey Price yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 25 Mawrth.

Straeon perthnasol