'Newid radical' i ysgolion Powys gam yn nes

Ysgol ar gau
Image caption Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys sydd wedi gweld y nifer fwyaf o ysgolion yn cau

Mae 'newidiadau radical' i ysgolion ym Mhowys gam yn nes, wedi i'r Cyngor bleidleisio'n unfrydol o blaid paratoi cais busnes i Lywodraeth Cymru i greu campws newydd yn Aberhonddu.

Byddai'r cynllun yn golygu bod Campws Addysg Aberhonddu yn darparu addysg ar gyfer disgyblion 11-16 oed, ynghyd â chreu coleg chweched dosbarth newydd yn Aberhonddu.

Pe bai hyn yn digwydd byddai dwy ysgol uwchradd yn ne Powys - Ysgol Uwchradd Aberhonddu ac Ysgol Gwernyfed - yn cau.

Fel rhan o'r cynllun byddai addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei drosglwyddo o Ysgol Uwchradd Aberhonddu i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt, 14 milltir i ffwrdd.

Mi wnaeth cabinet cyngor Powys hefyd bleidleisio o blaid caniatau i swyddogion cyngor baratoi adolygiadau o addysg uwchradd yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod, darpariaeth chweched dosbarth yn Ysgol Maesydderwen, Ystradgynlais ac addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y sir.

Methu denu disgyblion

Powys yw'r diweddaraf mewn rhestr helaeth o gynghorau sy'n ceisio dod i'r afael â niferoedd disgyblion yn newid, sydd wedi gweld 120 o ysgolion yn cau yn barod.

Mae arweinwyr y cyngor yn dweud bod y broblem wedi ei chreu gan ysgolion yn methu denu disgyblion a phwysau ariannol.

Mae Estyn wedi nodi'r anawsterau o lai o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd, ond nifer cynyddol mewn ysgolion cynradd.

Yn ogystal, mae'r anghyfartaledd rhwng ardaloedd trefol a gwledig, a galwad cynyddol am addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pam bod angen newid?

Mae arian yn bendant yn ffactor pwysig i'w gysidro, ac mae dadl bod ysgolion llai yn costio mwy pob pen nac ysgolion mwy.

Yn ôl Estyn, mae pob lle gwag mewn ysgol gynradd yn costio £260 ar gyfartaledd, a gall gau ysgol arbed £63,500 ar gyfartaledd.

Mae'r ffigyrau ar gyfer ysgolion uwchradd yn £510 ar gyfer pob lle gwag a £113,000 pob ysgol.

Faint o ysgolion sydd wedi cau?

Yn 2010 roedd 1,753 o ysgolion gwladol yng Nghymru ond erbyn y llynedd roedd y nifer wedi disgyn i 1,633, gostyngiad o 6.8%.

Mae'r niferoedd wedi gostwng ym mhob sir ond dwy yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf, gyda'r gostyngiadau mwyaf ym Mhowys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Dros yr un cyfnod disgynnodd y niferoedd o ddisgyblion ychydig, o 467,141 yn 2010 i 465,081 yn 2014, ond dyw hynny ddim yn rhoi'r darlun cyfan i ni.

Poblogaeth ysgolion yn cynyddu

Mewn ysgolion cynradd, cynyddodd y nifer o ddisgyblion o 6,741 (2.6%) rhwng 2010 a 2014, o 257,445 i 264,186.

Ar ben hynny, mae'r nifer o blant dan bump oed yn cynyddu.

Beth mae hyn yn ei olygu i addysg disgyblion?

Mae mwy o ddisgyblion yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau o fwy na 31 o blant. Ond, does dim cysylltiad wedi ei nodi rhwng maint dosbarth a safon yr addysg sy'n cael ei gynnig.

Y datrysiad o uno ysgolion - ydi hyn yn gweithio?

Image caption Ysgol Bro Pedr oedd yr ysgol cyntaf o'i fath yng Nghymru

Un opsiwn yw dod ac ysgolion cynradd i gyd at ei gilydd dan un to - neu hyd yn oed disgyblion cynradd ac uwchradd ar un campws.

David Williams yw pennaeth Ysgol Bro Pedr yn Llambed, Ceredigion ac mae ganddo blant dan ei ofal o dair oed hyd at 19 oed - yr ysgol gyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mae'n dweud bod manteision o gadw golwg ar ddatblygiad disgyblion ac i blant iau gael defnydd o gyfleusterau arbenigol, athrawon a mentora gan ddisgyblion hŷn.

"Roedden ni yn lwcus bod gennym ni ddwy ysgol lwyddiannus - ysgol uwchradd mawr ac ysgol gynradd fawr - yn dod at ei gilydd yn effeithiol ar yr un campws ac roedden ni'n gallu lleddfu'r pryder y byddai cyfathrebu a phellter yn broblem," meddai.

Dywed Mr Williams ei fod yn gallu siarad o'i brofiad ei hun yn unig, a bod pob cymuned yn wahanol.

Be' sy'n glir yw ei bod yn anodd iawn i gynghorau gyflawni eu cynigion o ail-drefnu ysgolion gan fod gwrthwynebiad chwyrn yn lleol yn aml.

Mae'n bwnc sydd wedi bod yn y penawdau am nifer o flynyddoedd, a dydi hi ddim yn edrych fel y bydd yn cael ei ddatrys yn y dyfodol agos.

Straeon perthnasol