Damwain awyren Airbus: Tri o Brydain wedi marw

awyren
Image caption Mae Germanwings yn is-gwmni o Lufthansa, cwmni awyr o'r Almaen

Mae'r Gweinidog Tramor, Philip Hammond wedi cadarnhau bod o leiaf tri o Brydain wedi eu lladd ar ôl i awyren Airbus A320 ddisgyn i'r ddaear yn yr Alpau Ffrengig rhwng Barcelonnette a Digne ddydd Mawrth.

Yn ôl Gweinyddiaeth Drafnidiaeth Ffrainc, nid oes goroeswyr i'r ddamwain.

Roedd awyren yn perthyn i gwmni hedfan o'r Almaen, Germanwings, sy'n is-gwmni o Lufthansa.

Roedd yr awyren ar ei ffordd o Barcelona i Dusseldorf, gyda 142 o deithwyr a chwe aelod o griw.

Pobl o Brydain

Dywedodd Philip Hammond AS fod yr awdurdodau eisoes wedi cysylltu â theuluoedd y rhai o'r DU sydd wedi eu lladd.

"Ar hyn o bryd rydym yn credu bod tri o bobl o Brydain wedi cael eu lladd yn y drychineb, ond ni allwn ddiystyru'r posibilrwydd bod rhagor o bobl o Brydain ar fwrdd yr awyren.

"Rydym mewn cysylltiad â'r awdurdodau Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, ac unwaith y bydd gennym ddarlun cliriach, byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach."

Image caption Mae adenydd awyrenau A320 Airbus yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri ym Mrychdyn

Mae swyddogion yn dweud bod recordydd llais a rhan o focs du'r awyren wedi cyrraedd ym Mharis ar gyfer ei ymchwilio.

Ddydd Mawrth, dywedodd Arlywydd Ffrainc Francois Hollande: "Nid oes eglurhad dros amgylchiadau'r ddamwain eto, rydym yn meddwl nad oes unrhyw oroeswyr."

Dywedodd Mr Hollande bod y ddamwain yn drasiedi gan alw am undod mewn amgylchiadau anodd.

Mae adenydd awyrenau A320 Airbus yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri ym Mrychdyn.