Cofio'r Athro R. Geraint Gruffydd

geraint gruffydd

Bu farw'r Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd yn 86 mlwydd oed.

Roedd yn ysgolhaig adnabyddus ac yn arbenigwr ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg.

Ei dad, Moses Griffith, oedd trysorydd cyntaf Plaid Cymru.

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen, cyn dilyn gyrfa academaidd mewn tair swyddfa nodedig.

Bu'n Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1970 a 1979, cyn ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel llyfrgellydd yn 1980. Daeth yn gyfarwyddwr ar y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn 1985.

Wedi ei ymddeoliad academaidd yn 1993 daeth yn Llywydd y Gyngres Ryngwladol ar Astudiaethau Celtaidd tan 2003, ac roedd hefyd wedi gwasanaethu fel Is-Lywydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Yn 1999 fe olynodd yr Athro JE Caerwyn Williams fel Golygydd Ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru.

Ysgrifennodd lyfrau ar amryw bynciau o bob cyfnod o hanes llenyddiaeth Gymraeg, o'i driniaeth o farddoniaeth gynharaf Cymru i waith y bardd canoloesol, Dafydd ap Gwilym, a'r perganiedydd, William Williams Pantycelyn , yn ogystal â dadansoddiadau o waith awduron yr 20fed ganrif megis Saunders Lewis.

Roedd hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

'Colled ddifesur'

Dywedodd Aled Gruffydd Jones, Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr:

"Gyda thristwch ac ymdeimlad o golled ddifesur, y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi derbyn y newyddion trist ac ingol am farwolaeth yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd MA DPhil DLitt FLSW FBA, yn ei gartref yn Aberystwyth.

"Yn ddiamheuol, roedd yr Athro Geraint yn un o ysgolheigion mwyaf yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth. Rydym yn ei gofio'n arbennig heddiw fel Llyfrgellydd a phennaeth llwyddiannus a nodedig iawn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 1980-85."

"Rydym nid yn unig yn cydymdeimlo'n fawr ag Eluned ei briod, a'r teulu ond hefyd yn sylweddoli maint y golled hon i'r genedl gyfan yn ystod cyfnod lle y gwelwyd colli nifer o gewri diwylliant a dysg Cymru."