Gwylio am y Cipar

Un o'r pethau sy'n rhaid ei wylio wrth ddefnyddio sillafyddion Cymraeg yw tuedd rhai ohonynt i newid enwau pobl neu gyrff. Mae CySill, er enghraifft, yn ceisio troi pob Carwyn yn Cerwyn ac yn pardduo Don Touhig truan trwy ei fedyddio'n Don Taeog. Oes achos o enllib trwy spell-checker wedi digwydd eto? Rwy'n amau bod yna, yn America - mwy na thebyg!

A dweud y gwir mae canfod enwau CySill pobl yn gallu bod yn fordd ddifyr o dreulio ambell i funud hesb yn y gwaith. Mae gwybod mai Bara Ohebem yw Arlywydd yr Unol Daleithiau a bod Vladamir Putain yn rhedeg Rwsia yn difyrru dyn rhywsut!

Pan ddaw hi'n fater o Ukip mae'n hen sillafydd yn colli amynedd yn llwyr. "Dim awgrym" yw'r ymateb swrth gan CySill bob tro y mae'r acronym bach yna'n ymddangos!

Mae'n debyg nad oedd y blaid honno yn haeddu sylw Canolfan Bedwyr pan ddechreuwyd ar y gwaith o greu'r sillafydd ac am gyfnod hir roedd y pleidiau eraill yn mabwysiadu polisi digon tebyg. Anwybyddu sydd orau oedd y mantra hyd yn oed ar ôl llwyddiant cymharol y blaid yn etholiad Ewropeaidd 2009.

Fe brofodd y dacteg honno'n bur effeithiol hefyd gyda'r gefnogaeth i Ukip yn gostwng i 3% prin flwyddyn yn ddiweddarach yn etholiad cyffredinol 2010.

Does dim modd anwybyddu'r blaid bellach. Mae llwyddiant is-etholiadol Ukip, lefel ei chefnogaeth yn yr arolygon barn a phenderfyniad Ofcom i'w dyrchafu'n un o'r 'prif bleidiau' yng Nghymru a Lloegr yn sicrhau hynny.

Addo refferendwm mewn a mas ynghylch Ewrop yw ymateb y Ceidwadwyr. Mae hynny'n gwneud synnwyr strategol. Serch hynny mae'n rhaid i'r Ceidwadwyr dderbyn bod 'na gyfran o'u cefnogwyr traddodiadol sydd y tu hwnt i'w cyrraedd yn etholiad eleni. Fe fydd Ukip yn niweidio'r Ceidwadwyr ar Fai'r 7fed. Mae'r unig ansicrwydd ynghylch maint y clais.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ar y llaw arall wedi penderfynu mynd benben a'r blaid gan herio ei pholisïau a'u daliadau sylfaenol. Dyw hynny ddim yn syndod. Fe fyddai'n anodd iawn i'r ddwy blaid gwneud unrhyw beth arall heb golli hygrededd.

Mae ymateb Llafur yn fwy cytbwys gan wrthod ildio modfedd ar refferendwm Ewropeaidd tra'n addo gweithredu ynghylch effaith mewnfudwyr ar gymunedau. Mae'n werth dyfynnu'r hyn sy'n cael ei ddweud ar wefan y blaid.

Labour got things wrong on immigration in the past. But Ed Miliband has set out a new approach: controlling immigration and controlling its impacts on local communities. Britain needs immigration rules that are tough and fair.

Mae'n amlwg bod Llafur o'r farn mae polisi mewnfudo Ukip yn hytrach na'i pholisi Ewropeaidd sy'n apelio at garfan o gefnogwyr traddodiadol Llafur.

Mae'r blaid wedi bod yn pwysleisio ei pholisi mewnfudo newydd ers is-etholiad Heywood a Middleton y llynedd lle ddaeth Ukip o fewn ychydig gannoedd i gipio cadarnle traddodiadol ond mae'n bosib bod Llafur wedi dysgu'r wers anghywir o'r etholiad hwnnw.

Yr hyn sy'n ddiddorol am Heywood a Middleton yw bod y canran wnaeth gefnogi Llafur wedi cynyddu rhiw fymryn ers 2010. Fe ddaeth llwyddiant Ukip ar draul y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol - neu felly mae'n ymddangos ar bapur.

Mewn gwirionedd roedd pethau'n fwy cymhleth na hynny. Dengys y dystiolaeth bod Llafur wedi colli cyfran pur sylweddol o bleidleiswyr i Ukip ond fe ddigolledwyd y blaid gan bleidleisiau yn llifo o gyfeiriad y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dyma'r dilemma felly.

Ar ôl dioddef crasfa yn 1997 fe gymerodd hi naw mlynedd i'r Ceidwadwyr gyrraedd cyfartaledd o ddeugain y cant yn yr arolygon barn. Ar ôl ei chrasfa hi yn 2010 roedd Llafur wedi cyrraedd y pedwardegau o fewn naw mis. Roedd hynny'n llwyr oherwydd chwalfa yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'r pleidleiswyr hynny wedi aros yn driw i Lafur ers hynny. Dyna'r rheswm y mae'r ras bresennol yn un mor agos.

Cwestiwn. Ydy'r fath o bobol wnaeth symud o'r Democratiaid Rhyddfrydol i Lafur ar ôl etholiad 2010, gwrthwynebwyr rhyfel Iraq, myfyrwyr a'u tebyg yn debyg o gefnogi polisïau llym ynghylch mewnfudo?

Rwy'n amau hynny rhywsut.

Mae 'na beryg y gallai Llafur greu problem newydd i'r hun wrth geisio datrys un arall.